2 Brenhinoedd 11 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Achub Joas gan ei fodryb Joseba, pan laddodd Athaleia yr had brenhinol, a’i guddio chwe blynedd yn nhŷ Dduw. 4 Jehoiada, trwy gynorthwy y tywysogion, ar y seithfed flwyddyn yn ei wneuthur ef yn frenin. 13 Lladd Athaleia. 17 Jehoiada yn adfer gwasanaeth Duw.

1A phan welodd yr holl had brenhinol.

2Ond Joseba merch y brenin Joram, chwaer Ahaseia, a gymerth Joas mab Ahaseia, ac a’i lladrataodd ef o fysg meibion y brenin y rhai a laddwyd: a hwy a’i cuddiasant ef a’i famaeth yn ystafell y gwelyau, rhag Athaleia, fel na laddwyd ef.

3Ac efe a fu gyda hi ynghudd yn nhŷ yr Arglwydd chwe blynedd: ac Athaleia oedd yn teyrnasu ar y wlad.

4Ac deuparth ohonoch oll sydd yn myned allan ar y Saboth, a gadwant wyliadwriaeth tŷ yr Arglwydd, ynghylch y brenin.

8A chwi a amgylchynwch y brenin o bob parth, pob un â’i arfau yn ei law; a’r hwn a ddelo i’r rhesau, lladder ef: a byddwch gyda’r brenin pan elo efe allan, a phan ddelo efe i mewn.

9tu deau i’r tŷ, hyd y tu aswy i’r tŷ, wrth yr allor a’r tŷ, amgylch ogylch y brenin.

12Ac efe a ddug allan fab y brenin, ac a roddodd y goron arno ef, a’r dystiolaeth: a hwy a’i hurddasant ef yn frenin, ac a’i heneiniasant ef; curasant hefyd eu dwylo, a dywedasant, Byw fyddo’r brenin.

13A phan glybu Athaleia drwst y bobl yn rhedeg, hi a ddaeth i mewn at y bobl i dŷ yr Arglwydd.

14A phan edrychodd hi, wele, y brenin oedd yn sefyll Pen 23:3; 2 Cron 34:31wrth y golofn yn ôl yr arfer, a’r tywysogion a’r utgyrn yn ymyl y brenin, a holl bobl y wlad yn llawen, ac yn canu mewn utgyrn. Ac Athaleia a rwygodd ei dillad, ac a waeddodd, Bradwriaeth, bradwriaeth!

15A Jehoiada yr offeiriad a orchmynnodd i dywysogion y cannoedd, y rhai oedd wedi eu gosod ar y llu, ac a ddywedodd wrthynt, Dygwch hi o’r tu allan i’r rhesau; a’r hwn a ddelo ar ei hôl hi, lladder ef â’r cleddyf: canys dywedasai yr offeiriad, Na ladder hi yn nhŷ yr Arglwydd.

16A hwy a osodasant ddwylo arni hi, a hi a aeth ar hyd y ffordd feirch i dŷ y brenin, ac yno y lladdwyd hi.

17 2 Cron 23:16 A Jehoiada a wnaeth gyfamod rhwng yr Arglwydd a’r brenin a’r bobl, i fod ohonynt yn bobl i’r Arglwydd; 2 Sam 5:3a rhwng y brenin a’r bobl.

18A holl bobl y wlad a aethant i dŷ Baal, ac a’i dinistriasant ef a’i allorau, ei ddelwau hefyd a ddrylliasant hwy yn chwilfriw, lladdasant hefyd Mattan offeiriad Baal o flaen yr allorau. 2 Cron 23:18A’r offeiriad a osododd oruchwylwyr ar dŷ yr Arglwydd.

19Efe a gymerth hefyd dywysogion y cannoedd, a’r capteiniaid, a’r swyddogion, a holl bobl y wlad, a hwy a ddygasant i waered y brenin o dŷ yr Arglwydd, ac a ddaethant ar hyd ffordd porth y swyddogion, i dŷ y brenin: ac efe a eisteddodd ar orseddfa y brenhinoedd.

20A holl bobl y wlad a lawenychasant, a’r ddinas a lonyddodd: a hwy a laddasant Athaleia â’r cleddyf wrth dŷ y brenin.

212 Cron 24:1Mab saith mlwydd oedd Joas pan aeth efe yn frenin.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help