1A bu ryfel hir rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd: a Dafydd oedd yn myned gryfach gryfach, ond tŷ Saul oedd yn myned wannach wannach.
2 Chileab, o Abigail gwraig Nabal y Carmeliad; a’r trydydd, Absalom, mab Maacha ferch Talmai brenin Gesur;
4A’r pedwerydd, Adoneia, mab Haggith; a’r pumed, Seffatia, mab Abital:
5A’r chweched, Ithream, o Egla gwraig Dafydd. Y rhai hyn a anwyd i Dafydd yn Hebron.
6A thra yr ydoedd rhyfel rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd, yr oedd Abner yn ymegnïo dros dŷ Saul.
7Ond i Saul y buasai ordderchwraig a’i henw Phaltiel mab Lais.
16A’i gŵr a aeth gyda hi, gan fyned ac wylo ar ei hôl hi, hyd Bahurim. Yna y dywedodd Abner wrtho ef, Dos, dychwel. Ac efe a ddychwelodd.
17Ac Abner a lefarodd wrth henuriaid Israel, gan ddywedyd, Cyn hyn yr oeddech chwi yn ceisio Dafydd yn frenin arnoch.
18Ac yn awr gwnewch hynny: canys yr Arglwydd a lefarodd am Dafydd, gan ddywedyd, Trwy law Dafydd fy ngwas y gwaredaf fy mhobl Israel o law y Philistiaid, ac o law eu holl elynion.
19Dywedodd Abner hefyd wrth Benjamin: ac Abner a aeth i ymddiddan â Dafydd yn Hebron, am yr hyn oll oedd dda yng ngolwg Israel, ac yng ngolwg holl dŷ Benjamin.
20Felly Abner a ddaeth at Dafydd i Hebron, ac ugeinwr gydag ef. A Dafydd a wnaeth wledd i Abner, ac i’r gwŷr oedd gydag ef.
21A dywedodd Abner wrth Dafydd, Mi a gyfodaf ac a af, ac a gasglaf holl Israel at fy arglwydd frenin, fel y gwnelont gyfamod â thi, ac y teyrnasech di ar yr hyn oll a chwennych dy galon. A Dafydd a ollyngodd Abner ymaith; ac efe a aeth mewn heddwch.
22Ac wele weision Dafydd a Joab yn dyfod oddi wrth y dorf, ac anrhaith fawr a ddygasent hwy ganddynt: ond nid oedd Abner gyda Dafydd yn Hebron; canys efe a’i gollyngasai ef ymaith, ac yntau a aethai mewn heddwch.
23Pan ddaeth Joab a’r holl lu oedd gydag ef, mynegwyd i Joab, gan ddywedyd, Abner mab Ner a ddaeth at y brenin; ac efe a’i gollyngodd ef ymaith, ac efe a aeth mewn heddwch.
24A Joab a ddaeth at y brenin, ac a ddywedodd, Beth a wnaethost ti? wele, daeth Abner atat ti; paham y gollyngaist ef i fyned ymaith?
25Ti a adwaenit Abner mab Ner, mai i’th dwyllo di y daeth efe, ac i wybod dy fynediad allan, a’th ddyfodiad i mewn, ac i wybod yr hyn oll yr wyt ti yn ei wneuthur.
26A Joab a aeth allan oddi wrth Dafydd, ac a anfonodd genhadau ar ôl Abner; a hwy a’i dygasant ef yn ôl oddi wrth ffynnon Sira, heb wybod i Dafydd.
27A phan ddychwelodd Abner i Hebron, Joab phallo fod un o dŷ Joab yn ddiferllyd, neu yn wahanglwyfus, neu yn ymgynnal wrth fagl, neu yn syrthio ar gleddyf, neu mewn eisiau bara.
30Felly Joab ac Abisai ei frawd ef a laddasant Abner, oherwydd lladd ohono ef yr elor.
32A hwy a gladdasant Abner yn Hebron. A’r brenin a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd wrth fedd Abner; a’r holl bobl a wylasant.
33A’r brenin a alarnadodd am Abner, ac a ddywedodd, Ai fel y mae yr ynfyd yn marw, y bu farw Abner?
34Dy ddwylo nid oeddynt yn rhwym, ac nid oedd dy draed wedi eu rhoddi mewn egwydydd: syrthiaist fel y syrthiai un o flaen meibion anwir. A’r holl bobl a chwanegasant wylo amdano ef.
35A phan ddaeth yr holl bobl i beri i Dafydd fwyta bara, a hi eto yn ddydd, Dafydd a dyngodd, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, os archwaethaf fara, na dim oll, nes machludo’r haul.
36A’r holl bobl a wybuant hynny, a da oedd hyn yn eu golwg hwynt: a’r hyn oll a wnâi y brenin, oedd dda yng ngolwg y bobl.
37A’r holl bobl a holl Israel a wybuant y diwrnod hwnnw, na ddarfuasai o fodd y brenin ladd Abner mab Ner.
38A’r brenin a ddywedodd wrth ei weision, Oni wyddoch chwi i dywysog ac i ŵr mawr syrthio heddiw yn Israel?
39A minnau ydwyf eiddil heddiw, er fy eneinio yn frenin; a’r gwŷr hyn, meibion Serfia, sydd Pen 19:7ry galed i mi. Edrych Pen 19:13; 1 Bren 2:5, 6, 33, 34Yr Arglwydd a dâl i’r hwn a wnaeth y drwg yn ôl ei ddrygioni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.