2 Cronicl 7 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Duw yn tystiolaethu gyda gweddi Solomon, trwy dân o’r nef, a gogoniant yn y deml; a’r bobl yn ei addoli ef. 4 Cyhoedd ebyrth Solomon. 8 Solomon, ar ôl cadw gŵyl y pebyll, a gŵyl cysegriad yr allor, yn gollwng y bobl ymaith. 12 Duw yn ymddangos i Solomon, ac yn rhoi iddo addewidion dan amod.

1Ac trwyddynt hwy: a’r offeiriaid oedd yn utganu ar eu cyfer hwynt, a holl Israel oedd yn sefyll.

7A Solomon a gysegrodd ganol y cyntedd yr hwn oedd o flaen tŷ yr Arglwydd: canys yno yr offrymodd efe boethoffrymau, a braster yr aberthau hedd; canys ni allai yr allor bres a wnaethai Solomon dderbyn y poethoffrwm, a’r bwyd‐offrwm, a’r braster.

8 gymanfa: canys cysegriad yr allor a gadwasant hwy saith niwrnod, a’r ŵyl saith niwrnod.

10Ac 1 Bren 8:66yn y trydydd dydd ar hugain o’r seithfed mis y gollyngodd efe y bobl i’w pabellau, yn hyfryd ac yn llawen eu calon, am y daioni a wnaethai yr Arglwydd i Dafydd, ac i Solomon, ac i Israel ei bobl.

11Fel hyn 1 Bren 9:1 &cy gorffennodd Solomon dŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin: a’r hyn oll oedd ym mryd Solomon ei wneuthur yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn ei dŷ ei hun, a wnaeth efe yn llwyddiannus.

12A’r Arglwydd a ymddangosodd i Solomon liw nos, ac a ddywedodd wrtho, Gwrandewais dy weddi, a Deut 12:5mi a ddewisais y fan hon i mi yn dŷ aberth.

13Os caeaf fi y nefoedd, fel na byddo glaw, neu os gorchmynnaf i’r locustiaid ddifa y ddaear, ac os anfonaf haint ymysg fy mhobl;

14Os fy mhobl, y rhai y gelwir fy enw arnynt, a ymostyngant, ac a weddïant, ac a geisiant fy wyneb, ac a droant o’u ffyrdd drygionus: yna y gwrandawaf o’r nefoedd, ac y maddeuaf iddynt eu pechodau, ac yr iachâf eu gwlad hwynt.

15Yn awr Pen 6:40fy llygaid a fyddant yn agored, a’m clustiau yn ymwrando â’r weddi a wneir yn y fan hon.

16Ac yn awr Pen 6:6mi a ddetholais ac a sancteiddiais y tŷ hwn, i fod fy enw yno hyd byth: fy llygaid hefyd a’m calon a fyddant yno yn wastadol.

17A thithau, os rhodi ger fy mron i, fel y rhodiodd Dafydd dy dad, a gwneuthur yr hyn oll a orchmynnais i ti, a chadw fy neddfau a’m barnedigaethau:

18Yna y sicrhaf deyrngadair dy frenhiniaeth di, megis yr amodais â Dafydd dy dad, gan ddywedyd, Pen 6:16Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr yn arglwyddiaethu yn Israel.

19Lef 26:14, 33; Deut 28:15, 36, 37Ond os dychwelwch, ac os gwrthodwch fy neddfau a’m gorchmynion a roddais ger eich bron, ac os ewch a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt hwy:

20Yna mi a’u diwreiddiaf hwynt o’m gwlad a roddais iddynt, a’r tŷ a sancteiddiais i’m henw a fwriaf allan o’m golwg, a mi a’i rhoddaf ef yn ddihareb, ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd.

21A’r tŷ yma, yr hwn sydd uchel, a wna i bawb a’r a êl heibio iddo synnu: fel y dywedo, Deut 29:24; Jer 22:8, 9Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i’r wlad hon, ac i’r tŷ hwn?

22Yna y dywedant, Am iddynt wrthod Arglwydd Dduw eu tadau, yr hwn a’u dug hwy allan o wlad yr Aifft, ac am iddynt ymaflyd mewn duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt, a’u gwasanaethu hwynt: am hynny y dug efe yr holl ddrwg yma arnynt hwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help