Numeri 25 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Israel yn Sittim yn godinebu, ac yn addoli delwau. 6 Phinees yn lladd Simri a Chosbi. 10 Duw oherwydd hynny yn rhoddi iddo ef offeiriadaeth dragwyddol. 16 Rhaid yw blino y Midianiaid.

1A thrigodd Israel Pen 31:16; 33:49yn Sittim; a 1 Cor 10:8dechreuodd y bobl odinebu gyda merched Moab.

2A Jos 22:17; Salm 106:28; Hos 9:10galwasant y bobl i Exod 34:15; 1 Cor 10:20aberthau eu duwiau hwynt; a bwytaodd y bobl, ac addolasant eu duwiau hwynt.

3Ac ymgyfeillodd Israel â Baal‐peor; ac enynnodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Israel.

4A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Deut 4:3; Jos 22:17Cymer holl benaethiaid y bobl, a chrog hwynt i’r Arglwydd ar gyfer yr haul; fel y dychwelo llid digofaint yr Arglwydd oddi wrth Israel.

5A dywedodd Moses wrth Exod 18:21, 25farnwyr Israel, Exod 32:27Lleddwch bob un ei ddynion, y rhai a ymgyfeillasant â Baal‐peor.

6Ac wele, gŵr o feibion Israel a ddaeth, ac a ddygodd Fidianees at ei frodyr, yng ngolwg Moses, ac yng ngolwg holl gynulleidfa meibion Israel, a hwynt yn wylo wrth ddrws pabell y cyfarfod.

7A gwelodd Salm 106:30Phinees Exod 6:25mab Eleasar, mab Aaron yr offeiriad; ac a gododd o ganol y gynulleidfa, ac a gymerodd waywffon yn ei law;

8Ac a aeth ar ôl y gŵr o Israel i’r babell; ac a’u gwanodd hwynt ill dau, sef y gŵr o Israel, a’r wraig trwy ei cheudod. Ac ataliwyd y pla oddi wrth feibion Israel.

91 Cor 10:8A bu feirw o’r pla bedair mil ar hugain.

10A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

11Salm 106:30Phinees mab Eleasar, mab Aaron yr offeiriad, a drodd fy nicter oddi wrth feibion Israel, (pan eiddigeddodd efe drosof fi yn eu mysg,) fel na ddifethais feibion Israel yn fy eiddigedd.

12Am hynny dywed, Mal 2:4, 5Wele fi yn rhoddi iddo fy nghyfamod o heddwch.

13A bydd iddo ef, ac Edrych 1 Cron 6:4 &ci’w had ar ei ôl ef, amod o offeiriadaeth dragwyddol; am iddo eiddigeddu dros ei Dduw, a gwneuthur cymod dros feibion Israel.

14Ac enw y gŵr o Israel, yr hwn a laddwyd, sef yr hwn a laddwyd gyda’r Fidianees, oedd Simri, mab Salu, pennaeth tŷ ei dad, o lwyth Simeon.

15Ac enw y wraig o Midian a laddwyd, oedd Cosbi, merch Pen 31:8; Jos 13:21Sur: pencenedl o dŷ mawr ym Midian oedd hwn.

16A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

17Pen 31:2Blina’r Midianiaid, a lleddwch hwynt:

18Canys blin ydynt arnoch trwy eu dichellion a ddychmygasant i’ch erbyn, yn achos Peor, ac yn achos Cosbi, merch tywysog Midian, eu chwaer hwynt, yr hon a laddwyd yn nydd y pla, o achos Peor.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help