Job 15 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Eliffas yn ceryddu Job am ei annuwioldeb yn ei gyfiawnhau ei hun; 17 ac yn profi o bennau yr hen bobl, mor anesmwyth yw yr annuwiol.

1Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd,

2A adrodd gŵr doeth wybodaeth o wynt? ac a leinw efe ei fol â’r dwyreinwynt?

3A ymresyma efe â gair ni fuddia? neu ag ymadroddion y rhai ni wna efe lesâd â hwynt?

4Yn ddiau ti a dorraist ymaith ofn: yr ydwyt yn atal gweddi gerbron Duw.

5Canys dy enau a draetha dy anwiredd; ac yr wyt yn dewis tafod y cyfrwys.

6Dy enau di sydd yn dy fwrw yn euog, ac nid myfi: a’th wefusau sydd yn tystiolaethu yn dy erbyn.

7A aned tydi yn gyntaf dyn? a ofnadwy sydd yn ei glustiau ef: wagedd; a’u bol sydd yn darpar twyll.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help