1Libanus, agor dy ddorau, fel yr yso y tân dy gedrwydd.
2Y ffynidwydd, udwch; canys cwympodd y cedrwydd, difwynwyd y rhai ardderchog: udwch, dderw Basan; canys syrthiodd coedwig y gwin‐gynhaeaf.
3 Y mae llef udfa y bugeiliaid! am ddifwyno eu hardderchowgrwydd: llef rhuad y llewod ieuainc! am ddifwyno balchder yr Iorddonen.
4Fel hyn y dywed yr Arglwydd fy Nuw; Portha ddefaid y lladdfa;
5Y rhai y mae eu perchenogion yn eu lladd, yn rhoddi y dynion bob un i law ei gymydog, ac i law ei frenin; a hwy a drawant y tir, ac nid achubaf hwynt o’u llaw hwy.
7A mi a borthaf ddefaid y lladdfa, sef chwi, drueiniaid y praidd. A chymerais i mi ddwy ffon; un a elwais Hyfrydwch, a’r llall a elwais Rhwymau; a mi a borthais y praidd.
8A thorrais ymaith dri bugail alarodd arnynt hwy, a’u henaid hwythau a’m ffieiddiodd innau.
9Dywedais hefyd, Ni phorthaf chwi: gilydd.
10A chymerais fy ffon Hyfrydwch, a thorrais hi, i dorri fy nghyfamod yr hwn a amodaswn â’r holl bobl.
11A’r dydd hwnnw y torrwyd hi: ac felly gwelwch yn dda, dygwch fy ngwerth; ac onid e, peidiwch: a’m gwerth Rhwymau, i dorri y brawdoliaeth rhwng Jwda ac Israel.
15A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cymer eto i ti offer bugail ffôl.
16Canys wele fi yn codi bugail yn y tir, yr hwn ni ofwya y cuddiedig, ni chais yr ieuanc, ni feddyginiaetha y briwedig, a fyddo yn sefyll ni phortha; ond bwyty gig y bras, ac a ddryllia eu hewinedd hwynt.
17Jer 23:1; Esec 34:2; Ioan 10:12Gwae yr eilun bugail, yn gadael y praidd: y cleddyf fydd ar ei fraich, ac ar ei lygad deau: ei fraich gan wywo a wywa, a’i lygad deau gan dywyllu a dywylla.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
