1Yn y flwyddyn gyntaf i Belsassar brenin Babilon, y gwelodd Daniel freuddwyd, a gweledigaethau ei ben ar ei wely. Yna efe a ysgrifennodd y breuddwyd, ac a draethodd swm y geiriau.
2Llefarodd Daniel, a dywedodd, Mi a welwn yn fy ngweledigaeth y nos, ac wele bedwar gwynt y nefoedd yn ymryson ar y môr mawr.
3A phedwar bwystfil mawr a ddaethant i fyny o’r môr, yn amryw y naill oddi wrth y llall.
4Y cyntaf oedd a’i gyfodi oddi wrth y ddaear, a sefyll ohono ar ei draed fel dyn, a rhoddi iddo galon dyn.
5Ac wele anifail arall, yr ail, yn debyg i arth; ac efe a ymgyfododd ar y naill ystlys, ac yr oedd tair asen yn ei safn ef rhwng ei ddannedd: ac fel hyn y dywedent wrtho, Cyfod, bwyta gig lawer.
6Wedi hyn yr edrychais, ac wele un arall megis llewpard, ac iddo bedair adain aderyn ar ei gefn: a phedwar pen oedd i’r bwystfil; a rhoddwyd llywodraeth iddo.
7Wedi hyn y gwelwn mewn gweledigaethau nos, ac wele bedwerydd bwystfil, ofnadwy, ac erchyll, a chryf ragorol; ac iddo yr oedd dannedd mawrion o haearn: yr oedd yn bwyta, ac yn dryllio, ac yn sathru y gweddill dan ei draed: hefyd yr ydoedd efe yn amryw oddi wrth y bwystfilod oll y rhai a fuasai o’i flaen ef; ac yr oedd iddo ddeg o gyrn.
8Yr oeddwn yn ystyried y cyrn; ac wele, cyfododd a rhoddwyd iddynt einioes dros ysbaid ac amser.
13Mi a welwn mewn gweledigaethau nos, ac wele, nghorff, a gweledigaethau fy mhen a’m dychrynasant.
16Neseais at un o’r rhai a safent gerllaw, a cheisiais ganddo y gwirionedd am hyn oll. Ac efe a ddywedodd i mi, ac a wnaeth i mi wybod dehongliad y pethau.
17Y bwystfilod mawrion hyn, y rhai sydd bedwar, ydynt bedwar brenin, y rhai a gyfodant o’r ddaear.
18Eithr Goruchaf a dderbyniant y frenhiniaeth, ac a feddiannant y frenhiniaeth hyd byth, a hyd byth bythoedd.
19Yna yr ewyllysiais wybod y gwirionedd am y pedwerydd bwystfil, yr hwn oedd yn amrywio oddi wrthynt oll, yn ofnadwy iawn, a’i ddannedd o haearn, a’i ewinedd o bres; yn bwyta, ac yn dryllio, ac yn sathru y gweddill â’i draed:
20Ac am y deg corn oedd ar ei ben ef, a’r llall yr hwn a gyfodasai, ac y syrthiasai tri o’i flaen; sef y corn yr oedd llygaid iddo, a genau yn traethu mawrhydri, a’r olwg arno oedd yn arwach na’i gyfeillion.
21Edrychais, a’r corn hwn llywodraeth a wasanaethant ac a ufuddhânt iddo.
28Hyd yma y mae diwedd y peth. ad. 15 Pen 8:27 10:8, 16Fy meddyliau i Daniel a’m dychrynodd yn ddirfawr, a’m gwedd a newidiodd ynof; eithr mi a gedwais y peth yn fy nghalon.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.