1Canys teyrnas nefoedd sydd debyg i ŵr o berchen tŷ, yr hwn a aeth allan a hi yn dyddhau, i gyflogi gweithwyr i’w winllan.
2Ac wedi cytuno â’r gweithwyr er ceiniog y dydd, efe a’u hanfonodd hwy i’w winllan.
3Ac efe a aeth allan ynghylch y drydedd awr, ac a welodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnadfa;
4Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch chwithau i’r winllan; a pha beth bynnag a fyddo cyfiawn, mi a’i rhoddaf i chwi.
5A hwy a aethant ymaith. Ac efe a aeth allan drachefn ynghylch y chweched a’r nawfed awr, ac a wnaeth yr un modd.
6Ac efe a aeth allan ynghylch yr unfed awr ar ddeg, ac a gafodd eraill yn sefyll yn segur, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y sefwch chwi yma ar hyd y dydd yn segur?
7Dywedasant wrtho, Am na chyflogodd neb nyni. Dywedodd yntau wrthynt, Ewch chwithau i’r winllan; a pha beth bynnag fyddo cyfiawn, chwi a’i cewch.
8A phan aeth hi yn hwyr, arglwydd y winllan a ddywedodd wrth ei oruchwyliwr, Galw’r gweithwyr, a dyro iddynt eu cyflog, gan ddechrau o’r rhai diwethaf hyd y rhai cyntaf.
9A phan ddaeth y rhai a gyflogasid ynghylch yr unfed awr ar ddeg, hwy a gawsant bob un geiniog.
10A phan ddaeth y rhai cyntaf, hwy a dybiasant y caent fwy; a hwythau a gawsant bob un geiniog.
11Ac wedi iddynt gael, grwgnach a wnaethant yn erbyn gŵr y tŷ,
12Gan ddywedyd, Un awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, a thi a’u gwnaethost hwynt yn gystal â ninnau, y rhai a ddygasom bwys y dydd, a’r gwres.
13Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth un ohonynt, Y cyfaill, nid ydwyf yn gwneuthur cam â thi: onid er ceiniog y cytunaist â mi?
14Cymer yr hyn sydd eiddot, a dos ymaith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i’r olaf hwn megis i tithau.
15cyfreithlon i mi wneuthur a fynnwyf â’r eiddof fy hun? neu a ydyw dy Deut 15:9; Diar 23:6; Pen 6:23lygad di yn ddrwg, am fy mod i yn dda?
16Marc 10:31Felly y rhai olaf fyddant yn flaenaf, a’r rhai blaenaf yn olaf: Pen 22:14canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.
17 Marc 10:32; Luc 18:31 Ac a’r Iesu yn myned i fyny i Jerwsalem, efe a gymerth y deuddeg disgybl o’r neilltu ar y ffordd, ac a ddywedodd wrthynt,
18Wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a Mab y dyn a draddodir i’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a hwy a’i condemniant ef i farwolaeth,
19Pen 27:2; Luc 23:1; Ioan 18:28 &c; Act 3:13Ac a’i traddodant ef i’r Cenhedloedd, i’w watwar, ac i’w fflangellu, ac i’w groeshoelio: a’r trydydd dydd efe a atgyfyd.
20 Marc 10:35 Yna y daeth mam meibion Pen 4:21Sebedeus ato gyda’i meibion, gan addoli, a deisyf rhyw beth ganddo.
21Ac efe a ddywedodd wrthi, Pa beth a fynni? Dywedodd hithau wrtho, Dywed am gael o’m dau fab hyn eistedd, y naill ar dy law ddeau, a’r llall ar dy law aswy, yn dy frenhiniaeth.
22A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed o’r Pen 26:39, 42; Ioan 18:11cwpan yr ydwyf fi ar yfed ohono, a’ch bedyddio â’r Luc 12:50bedydd y bedyddir fi? Dywedasant wrtho, Gallwn.
23Ac efe a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o’m cwpan, ac y’ch bedyddir â’r bedydd y’m bedyddir ag ef: eithr eistedd ar fy llaw ddeau ac ar fy llaw aswy, nid eiddof ei Pen 25:34roddi; ond i’r sawl y darparwyd gan fy Nhad.
24Marc 10:41; Luc 22:24, 25A phan glybu’r deg hyn, hwy a sorasant wrth y ddau frodyr.
25A’r Iesu a’u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd, Chwi a wyddoch fod penaethiaid y Cenhedloedd yn tra‐arglwyddiaethu arnynt, a’r rhai mawrion yn tra‐awdurdodi arnynt hwy.
26Eithr 1 Pedr 5:3nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond Pen 23:11; Marc 9:35; 10:43pwy bynnag a fynno fod yn fawr yn eich plith chwi, bydded yn weinidog i chwi;
27A phwy bynnag a fynno fod yn bennaf yn eich plith, bydded yn was i chwi:
28Megis na ddaeth Phil 2:7Mab y dyn i’w wasanaethu, Luc 22:27; Ioan 13:14ond i wasanaethu, ac 1 Tim 2:6; Titus 2:14; 1 Pedr 1:19i roddi ei einioes yn bridwerth Pen 26:28; Rhuf 5:15, 19dros lawer.
29 Marc 10:46; Luc 18:35 Ac a hwy yn myned allan o Jericho, tyrfa fawr a’i canlynodd ef.
30Ac wele, dau ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd, pan glywsant fod yr Iesu yn myned heibio, a lefasant, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym.
31A’r dyrfa a’u ceryddodd hwynt, fel y tawent: hwythau a lefasant fwyfwy, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym.
32A’r Iesu a safodd, ac a’u galwodd hwynt, ac a ddywedodd, Pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur ohonof i chwi?
33Dywedasant wrtho, Arglwydd, agoryd ein llygaid ni.
34A’r Iesu a dosturiodd wrthynt, ac a gyffyrddodd â’u llygaid: ac yn ebrwydd y cafodd eu llygaid olwg, a hwy a’i canlynasant ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.