1 Cronicl 25 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Rhifedi a swyddau y cantorion. 8 Eu dosbarthu hwy yn bedwar dosbarthiad ar hugain.

1A neilltuodd Dafydd, a thywysogion y llu, tuag at y gwasanaeth, o feibion Asarela, meibion Asaff, dan law Asaff, yr hwn oedd yn proffwydo wrth law y brenin.

3A Jedwthwn: meibion Jedwthwn; Gedaleia, a Seri, a Jesaia, a Hasabeia. Matitheia, chwech, dan law Jedwthwn eu tad, ar y delyn yn proffwydo, i foliannu ac i glodfori yr Arglwydd.

4O Heman: meibion Heman; Bucceia, Mataneia, Ussiel, Sebuel, a Jerimoth, Hananeia, Hanani, Eliatha, Gidalti, a Romamti‐eser, Josbecasa, Malothi, Hothir, a Mahasioth:

5Y rhai hyn oll oedd feibion Heman, gweledydd y brenin yng ngeiriau Duw, i ddyrchafu’r corn. Duw hefyd a roddes i Heman bedwar ar ddeg o feibion, a thair o ferched.

6Y rhai hyn oll oedd dan law eu tad yn canu yn nhŷ yr Arglwydd, â symbalau, a nablau, a thelynau, i wasanaeth tŷ Dduw; trefn y brenin i Asaff, a Jedwthwn, a Heman.

7A’u nifer hwynt, ynghyd â’u brodyr dysgedig yng nghaniadau yr Arglwydd, sef pob un cyfarwydd, oedd ddau cant pedwar ugain ac wyth.

8A hwy a fwriasant goelbrennau, cylch yn erbyn cylch, bychan a mawr, 2 Cron 23:13athro a disgybl.

9A’r coelbren cyntaf a ddaeth dros Asaff i Joseff: yr ail i Gedaleia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.

10Y trydydd i Saccur; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.

11Y pedwerydd i Isri; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.

12Y pumed i Nethaneia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.

13Y chweched i Bucceia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.

14Y seithfed i Jesarela; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.

15Yr wythfed i Jesaia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.

16Y nawfed i Mataneia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.

17Y degfed i Simei; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.

18Yr unfed ar ddeg i Asareel; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.

19Y deuddegfed i Hasabeia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.

20Y trydydd ar ddeg i Subael; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.

21Y pedwerydd ar ddeg i Matitheia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.

22Y pymthegfed i Jerimoth; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.

23Yr unfed ar bymtheg i Hananeia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.

24Y ddeufed ar bymtheg i Josbecasa; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.

25Y deunawfed i Hanani; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.

26Y pedwerydd ar bymtheg i Malothi; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.

27Yr ugeinfed i Eliatha; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.

28Yr unfed ar hugain i Hothir; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.

29Y ddeufed ar hugain i Gidalti; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.

30Y trydydd ar hugain i Mahasioth; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.

31Y pedwerydd ar hugain i Romamti-eser; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help