1 Cronicl 16 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Dafydd yn aberthu, 4 yn ordeinio cantorion i ganu mawl i Dduw, 7 yn gwneuthur Salm o ddiolch i Dduw, 37 yn gosod gweinidogion, a phorthorion, ac offeiriaid, a cherddorion, i weini i’r arch yn wastadol.

1Felly rhandir eich etifeddiaeth.

19Pan nad oeddech ond ychydig, Gen 34:30ie, ychydig, a dieithriaid ynddi;

20A phan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth, ac o un frenhiniaeth at bobl eraill;

21Ni adawodd efe i neb eu gorthrymu: ond efe Gen 12:17; 20:3; Exod 7:15a geryddodd frenhinoedd o’u plegid hwy, gan ddywedyd,

22Salm 105:15Na chyffyrddwch â’m heneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi.

23Salm 96:1Cenwch i’r Arglwydd yr holl ddaear: mynegwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef.

24Adroddwch ei ogoniant ef ymhlith y cenhedloedd; a’i wyrthiau ymhlith yr holl bobloedd.

25Canys mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn: ofnadwy hefyd yw efe goruwch yr holl dduwiau.

26Oherwydd holl dduwiau y Lef 19:4bobloedd ydynt eilunod; ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd.

27Gogoniant a harddwch sydd ger ei fron ef: nerth a gorfoledd yn ei fangre ef.

28Moeswch i’r Arglwydd, chwi deuluoedd y bobloedd, moeswch i’r Arglwydd ogoniant a nerth.

29Moeswch i’r Arglwydd ogoniant ei enw: dygwch aberth, a deuwch ger ei fron ef; ymgrymwch i’r Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd.

30Ofnwch rhagddo ef yr holl ddaear: y byd hefyd a sicrheir, fel na syflo.

31Ymlawenyched y nefoedd, ac ymhyfryded y ddaear; a dywedant ymhlith y cenhedloedd, Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu.

32Rhued y môr a’i gyflawnder; llawenhaed y maes, a’r hyn oll y sydd ynddo.

33Yna prennau y coed a ganant o flaen yr Arglwydd, am ei fod yn dyfod i farnu y ddaear.

34Salm 107:1; 118:1; 136:1Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

35A dywedwch, Salm 106:47, 48Achub ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth, casgl ni hefyd, a gwared ni oddi wrth y cenhedloedd, i foliannu dy enw sanctaidd di, ac i ymogoneddu yn dy foliant.

36Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. A dywedodd yr holl Deut 27:15bobl, Amen, gan foliannu yr Arglwydd.

37Ac efe a adawodd yno, o flaen arch cyfamod yr Arglwydd, Asaff a’i frodyr, i weini gerbron yr arch yn wastadol, gwaith dydd yn ei ddydd:

38Ac Obed‐edom a’u brodyr, wyth a thrigain; Obed‐edom hefyd mab Jeduthun, a Hosa, i fod yn borthorion:

39Sadoc yr offeiriad, a’i frodyr yr offeiriaid, o flaen Pen 21:29; 2 Cron 1:3tabernacl yr Arglwydd, 1 Bren 3:4yn yr uchelfa oedd yn Gibeon,

40I offrymu poethoffrymau i’r Arglwydd ar allor y poethoffrwm yn wastadol Exod 29:38; Num 28:3fore a hwyr, yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig yng nghyfraith yr Arglwydd, yr hon a orchmynnodd efe i Israel:

41A chyda hwynt Heman, a Jedwthwn, a’r etholedigion eraill, y rhai a hysbysasid wrth eu henwau, i foliannu yr Arglwydd, 2 Cron 5:13; 7:3; Esra 3:11; Jer 33:11am fod ei drugaredd ef yn dragywydd:

42A chyda hwynt Heman, a Jedwthwn, yn lleisio ag utgyrn, ac â symbalau i’r cerddorion, ac offer cerdd Duw: a meibion Jedwthwn oedd wrth y porth.

43A’r holl bobl a aethant bob un i’w dŷ ei hun: a Dafydd a ddychwelodd i fendigo ei dŷ yntau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help