1Y gair a lefarodd yr Arglwydd trwy Jeremeia y proffwyd.
2Mynegwch ymysg y cenhedloedd, a chyhoeddwch, a chodwch arwydd; cyhoeddwch, na chelwch: dywedwch, Goresgynnwyd Babilon, gwaradwyddwyd cyfarwydd; ni ddychwelant yn ofer.
10A Chaldea fydd yn ysbail: pawb a’r a’i hysbeiliant hi a ddigonir, medd yr Arglwydd.
11Am i chwi fod yn llawen, am i chwi fod yn hyfryd, chwi fathrwyr fy etifeddiaeth, am i chwi frasáu fel anner mewn glaswellt, a beichio fel teirw;
12Eich mam a gywilyddir yn ddirfawr, a’r hon a’ch ymddûg a waradwyddir: wele, yr olaf o’r cenhedloedd yn anialwch, yn grastir, ac yn ddiffeithwch.
13Oherwydd digofaint yr Arglwydd nis preswylir hi, eithr hi a fydd i gyd yn anghyfannedd: gryman ar amser cynhaeaf: rhag cleddyf y gorthrymwr a’i diesgyrnodd.
18Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, myfi a ymwelaf â brenin Babilon, ac â’i wlad, fel yr ymwelais â brenin Asyria.
19A mi a ddychwelaf Israel i’w drigfa, ac efe a bawr ar Carmel a Basan; ac ar fynydd Effraim a Gilead y digonir ei enaid ef.
20Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, medd yr Arglwydd, y ceisir anwiredd Israel, ac ni bydd; a phechodau Jwda, ond nis ceir hwynt: canys myfi a faddeuaf i’r rhai a weddillwyf.
21Dos i fyny yn erbyn gwlad Merathaim, ie, yn ei herbyn hi, ac yn erbyn trigolion Pecod: anrheithia di a difroda ar eu hôl hwynt, medd yr Arglwydd, a gwna dyrnwch hi fel pentwr ŷd, a llwyr ddinistriwch hi: na fydded gweddill ohoni.
27Lleddwch ei holl fustych hi; disgynnant i’r lladdfa: gwae hwynt! canys eu dydd a ddaeth, ac amser eu hymweliad.
28Llef y rhai a ffoant ac a ddihangant o wlad Babilon, falch, medd Arglwydd Dduw y lluoedd: oherwydd dy ddydd a ddaeth, yr amser yr ymwelwyf â thi.
32A’r balch a dramgwydda ac a syrth, ac ni bydd a’i cyfodo: a mi a gyneuaf dân yn ei ddinasoedd, ac efe a ddifa ei holl amgylchoedd ef.
33Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Meibion Israel a meibion Jwda a orthrymwyd ynghyd; a phawb a’r a’u caethiwodd hwynt a’u daliasant yn dynn, ac a wrthodasant eu gollwng hwy ymaith.
34Eu Gwaredwr sydd gryf; Arglwydd y lluoedd yw ei enw; efe a lwyr ddadlau eu dadl hwynt, i beri llonydd i’r wlad, ac aflonyddwch i breswylwyr Babilon.
35Cleddyf sydd ar y Caldeaid, medd yr Arglwydd, ac ar drigolion Babilon, ac ar ei thywysogion, ac ar ei doethion.
36Cleddyf sydd ar y celwyddog, a hwy a ynfydant: cleddyf sydd ar ei chedyrn, a hwy a ddychrynant.
37Cleddyf sydd ar ei meirch, ac ar ei cherbydau, ac ar yr holl Pen 25:20, 24werin sydd yn ei chanol hi; a Nahum 3:13hwy a fyddant fel gwragedd: cleddyf sydd ar ei thrysorau; a hwy a ysbeilir.
38Pen 51:32, 36Sychder sydd ar ei dyfroedd hi, a hwy a sychant: oherwydd gwlad delwau cerfiedig yw hi, ac mewn eilunod y maent yn ynfydu.
39Am hynny Esa 13:22; 34:14; Pen 51:37; Dat 18:2anifeiliaid gwylltion yr anialwch, a chathod, a arhosant yno, a chywion yr estrys a drigant ynddi: ac ni phreswylir hi mwyach byth; ac nis cyfanheddir hi o genhedlaeth i genhedlaeth.
40Gen 19:25; Esa 13:19; Pen 49:18Fel yr ymchwelodd Duw Sodom a Gomorra, a’i chymdogesau, medd yr Arglwydd; felly ni phreswylia neb yno, ac ni erys mab dyn ynddi.
41Pen 6:22Wele, pobl a ddaw o’r gogledd, a chenedl fawr, a brenhinoedd lawer a godir o eithafoedd y ddaear.
42Y bwa a’r waywffon a ddaliant; creulon ydynt, ac ni thosturiant: Esa 5:30eu llef fel môr a rua, ac ar feirch y marchogant yn daclus i’th erbyn di, merch Babilon, fel gŵr i ryfel.
43Brenin Babilon a glywodd sôn amdanynt, a’i ddwylo ef a lesgasant: Pen 49:24gwasgfa a’i daliodd ef, a gwewyr fel gwraig wrth esgor.
44Pen 49:19 &cWele, fel llew y daw i fyny oddi wrth ymchwydd yr Iorddonen i drigfa y cadarn: eithr mi a wnaf iddo ef redeg yn ddisymwth oddi wrthi hi: a phwy sydd ŵr dewisol a osodwyf fi arni hi? canys pwy sydd fel myfi? a Job 41:10phwy a esyd i mi yr amser? a phwy yw y bugail hwnnw a saif o’m blaen i?
45Am hynny gwrandewch chwi gyngor yr Arglwydd, yr hwn a gymerodd efe yn erbyn Babilon, a’i fwriadau a fwriadodd efe yn erbyn gwlad y Caldeaid: yn ddiau y rhai lleiaf o’r praidd a’u llusgant hwy; yn ddiau efe a wna yn anghyfannedd eu trigleoedd gyda hwynt.
46Gan drwst goresgyniad Babilon y cynhyrfa y ddaear, ac y clywir y waedd ymysg y cenhedloedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.