1Dechrau efengyl Iesu Grist, Fab Duw;
2Fel yr ysgrifennwyd yn y proffwydi, Och, chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o’r cryd: ac yn ebrwydd y dywedasant wrtho amdani hi.
31Ac efe a ddaeth, ac a’i cododd hi i fyny, gan ymaflyd yn ei llaw hi: a’r cryd a’i gadawodd hi yn y man; a hi a wasanaethodd arnynt hwy.
32Mat 8:16Ac wedi iddi hwyrhau, pan fachludodd yr haul, hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a’r rhai cythreulig.
33A’r holl ddinas oedd wedi ymgasglu wrth y drws.
34Ac efe a iachaodd lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid; ac Luc 4:41; Act 16:17, 18ni adawodd i’r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent ef.
35A’r Luc 4:42bore yn blygeiniol iawn, wedi iddo godi, efe a aeth allan, ac a aeth i le anghyfannedd; ac yno y gweddïodd.
36A Simon, a’r rhai oedd gydag ef, a’i dilynasant ef.
37Ac wedi iddynt ei gael ef, hwy a ddywedasant wrtho, Y mae pawb yn dy geisio di.
38Ac efe a ddywedodd wrthynt, Luc 4:43Awn i’r trefydd nesaf, fel y gallwyf bregethu yno hefyd: canys Esa 61:1i hynny y deuthum allan.
39Ac yr oedd efe yn pregethu yn eu synagogau hwynt trwy holl Galilea, ac yn bwrw allan gythreuliaid.
40Mat 8:2; Luc 5:12A daeth ato ef un gwahanglwyfus, gan ymbil ag ef, a gostwng ar ei liniau iddo, a dywedyd wrtho, Os mynni, ti a elli fy nglanhau.
41A’r Iesu, gan dosturio, a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd wrtho, Mynnaf, bydd lân.
42Ac wedi iddo ddywedyd hynny, ymadawodd y gwahanglwyf ag ef yn ebrwydd, a glanhawyd ef.
43Ac wedi gorchymyn iddo yn gaeth, efe a’i hanfonodd ef ymaith yn y man;
44Ac a ddywedodd wrtho, Gwêl na ddywedych ddim wrth neb: eithr dos ymaith, dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad y pethau Lef 14:4a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt hwy.
45Luc 5:15Eithr efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi llawer, a thaenu’r gair ar led, fel na allai’r Iesu fyned mwy yn amlwg i’r ddinas; eithr yr oedd efe allan mewn lleoedd anghyfannedd: ac o bob parth y daethant ato ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.