Genesis 9 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Duw yn bendithio Noa; 4 yn gwahardd gwaed a llofruddiaeth. 9 Cyfamod Duw, 13 a arwyddoceir trwy yr enfys. 18 Noa yn llenwi y byd, 20 yn plannu gwinllan, 21 yn meddwi, ac yn cael ei watwar gan ei fab: 25 yn melltithio Canaan, 26 yn bendithio Sem, 27 yn gweddïo dros Jaffeth, 29 ac yn marw.

1 Duw hefyd a fendithiodd Noa a’i feibion, ac a ddywedodd wrthynt, Canaan.

19Y tri hyn oedd feibion Noa: ac o’r rhai hyn yr hiliwyd yr holl ddaear.

20A Noa a ddechreuodd fod yn llafurwr, ac a blannodd winllan:

21Ac a yfodd o’r gwin, ac a feddwodd, ac a ymnoethodd yng nghanol ei babell.

22A Cham tad Canaan a welodd noethni ei dad, ac a fynegodd i’w ddau frawd allan.

23A chymerodd Sem a Jaffeth ddilledyn, ac a’i gosodasant ar eu hysgwyddau ill dau, ac a gerddasant yn wysg eu cefn, ac a orchuddiasant noethni eu tad; a’u hwynebau yn ôl, fel na welent noethni eu tad.

24A Noa a ddeffrôdd o’i win, ac a wybu beth a wnaethai ei fab ieuangaf iddo.

25Ac efe a ddywedodd, Melltigedig fyddo Canaan; gwas gweision i’w frodyr fydd.

26Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.

27Duw a helaetha ar Jaffeth, ac efe a breswylia ym mhebyll Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.

28A Noa a fu fyw wedi’r dilyw dri chan mlynedd a deng mlynedd a deugain.

29Felly holl ddyddiau Noa oedd naw can mlynedd a deng mlynedd a deugain; ac efe a fu farw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help