1Ac i Ahab yr oedd deng mab a thrigain yn Samaria. A Jehu a ysgrifennodd lythyrau, ac a anfonodd i Samaria, at dywysogion Jesreel, ac at yr henuriaid, ac at dadmaethod Ahab, gan ddywedyd,
2Ac yn awr pan ddêl y llythyr hwn atoch chwi, canys gyda chwi y mae meibion eich arglwydd, a chennych chwi y mae cerbydau, a meirch, a dinasoedd caerog, ac arfau:
3Yna edrychwch yr hwn sydd orau, ac yn gymhwysaf o feibion eich arglwydd, a gosodwch ef ar deyrngadair ei dad, ac ymleddwch dros dŷ eich arglwydd.
4A hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant, Wele, dau frenin ni safasant o’i flaen ef: pa fodd gan hynny y safwn ni?
5Am hynny yr anfonodd yr hwn oedd ar y tŷ, a’r hwn oedd ar y ddinas, a’r henuriaid, a’r tadmaethod, at Jehu, gan ddywedyd, Dy weision di ydym ni, a’r hyn oll a ddywedych di wrthym a wnawn ni; ni wnawn ni neb yn frenin: gwna yr hyn a fyddo da yn dy olwg.
6Yna efe a ysgrifennodd yr ail lythyr atynt hwy, gan ddywedyd, Os eiddof fi fyddwch, ac os ar fy llais i y gwrandewch, cymerwch bennau y gwŷr, meibion eich arglwydd, a deuwch ataf fi y pryd hwn yfory i Jesreel. A meibion y brenin, sef deng nyn a thrigain, oedd gyda phenaethiaid y ddinas, y rhai oedd yn eu meithrin hwynt.
7A phan ddaeth y llythyr atynt, hwy a gymerasant feibion y brenin, ac a laddasant ddeng nyn a thrigain, ac a osodasant eu pennau hwynt mewn basgedau, ac a’u danfonasant ato ef i Jesreel.
8A chennad a ddaeth ac a fynegodd iddo ef, gan ddywedyd, Hwy a ddygasant bennau meibion y brenin. Dywedodd yntau, Gosodwch hwynt yn ddau bentwr wrth ddrws y porth hyd y bore.
9A’r bore efe a aeth allan, ac a safodd, ac a ddywedodd wrth yr holl bobl, Cyfiawn ydych chwi: wele, myfi a gydfwriedais yn erbyn fy arglwydd, ac a’i lleddais ef: ond pwy a laddodd yr holl rai hyn?
10Gwybyddwch yn awr na syrth dim o air yr Arglwydd i’r ddaear, yr hwn a lefarodd yr Arglwydd am dŷ Ahab: canys gwnaeth yr Arglwydd yr hyn a lefarodd efe gyfneseifiaid ef, a’i offeiriaid, fel na adawyd un yng ngweddill.
12Ac efe a gyfododd, ac a aeth ymaith hefyd, ac a ddaeth i Samaria. Ac fel yr oedd efe wrth dŷ cneifio y bugeiliaid ar y ffordd,
13gyfarfu â a gyfarchodd well iddo, ac a ddywedodd wrtho, A yw dy galon di yn uniawn, fel y mae fy nghalon i gyda’th galon di? A dywedodd Jehonadab, Ydyw. Od ydyw, eb efe, Cyhoeddwch gymanfa sanctaidd i Baal. A hwy a’i cyhoeddasant.
21A Jehu a anfonodd trwy holl Israel; a holl addolwyr Baal a ddaethant, ac nid oedd un yn eisiau a’r ni ddaethai: a hwy a ddaethant i dŷ Baal, a llanwyd tŷ Baal o ben bwygilydd.
22Ac efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd geidwad ar y gwisgoedd, Dwg allan wisgoedd i holl addolwyr Baal. Ac efe a ddug wisgoedd iddynt.
23A Jehu a aeth i mewn, a Jehonadab mab Rechab, i dŷ Baal, ac a ddywedodd wrth addolwyr Baal, Chwiliwch ac edrychwch, rhag bod yma gyda chwi neb o weision yr Arglwydd, ond addolwyr Baal yn unig.
24A phan ddaethant i mewn i wneuthur aberthau, a phoethoffrymau, Jehu a osododd iddo allan bedwar ugeinwr, ac a ddywedodd, Os dianc yr un o’r dynion a ddygais i’ch dwylo chwi, einioes yr hwn y dihango ganddo fydd am ei einioes ef.
25A phan orffennodd efe wneuthur y poethoffrwm, Jehu a ddywedodd wrth y swyddogion a’r tywysogion, Ewch i mewn, lleddwch hwynt, na ddeled neb allan. Felly hwy a’u trawsant hwy â min y cleddyf: a’r swyddogion a’r tywysogion a’u taflasant hwy allan, ac a aethant i ddinas tŷ Baal.
26A hwy a ddygasant allan ddelwau tŷ Baal, ac a’u llosgasant hwy.
27A hwy a ddistrywiasant ddelw Baal, ac a ddinistriasant dŷ Baal, ac a’i gwnaethant ef yn domdy hyd heddiw.
28Felly y dileodd Jehu Baal allan o Israel.
29Eto pechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, ni throdd Jehu oddi wrthynt hwy, sef oddi wrth nid edrychodd Jehu am rodio yng nghyfraith Arglwydd Dduw Israel â’i holl galon: canys ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.
32Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr Arglwydd dorri cyrrau Israel: a Hasael a’u trawodd hwynt yn holl derfynau Israel;
33O’r Iorddonen tua chodiad haul, sef holl wlad Gilead, y Gadiaid, a’r Reubeniaid, a’r Manassiaid, o Aroer, yr hon sydd wrth afon Arnon, Amos 1:3Gilead a Basan hefyd.
34A’r rhan arall o hanes Jehu, a’r hyn oll a’r a wnaeth efe, a’i holl gadernid ef; onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?
35A Jehu a hunodd gyda’i dadau, a chladdwyd ef yn Samaria, a Joahas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
36A’r dyddiau y teyrnasodd Jehu ar Israel yn Samaria oedd wyth mlynedd ar hugain.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.