Eseciel 48 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1, 23 Rhandiroedd y deuddeg llwyth. 8 Rhandir y cysegr; 15 a’r ddinas, a’i phentrefydd: 21 a’r tywysog. 30 Mesurau pyrth y ddinas.

1A dyma enwau y llwythau. rhan i Dan.

2Ac ar derfyn Dan, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Aser.

3Ac ar derfyn Aser, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Nafftali ran.

4Ac ar derfyn Nafftali, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Manasse ran.

5Ac ar derfyn Manasse, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Effraim ran.

6Ac ar derfyn Effraim, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Reuben ran.

7Ac ar derfyn Reuben, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Jwda ran.

8Ac ar derfyn Jwda, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, y bydd I’r offeiriaid cysegredig o feibion Sadoc y bydd, y rhai a gadwasant fy nghadwraeth, y rhai ni chyfeiliornasant pan gyfeiliornodd plant Israel, megis y cyfeiliornodd y Lefiaid.

12A bydd eiddynt yr hyn a offrymir o offrwm y tir, yn sancteiddbeth cysegredig wrth derfyn y Lefiaid.

13A’r Lefiaid a gânt, ar gyfer terfyn yr offeiriaid, bum mil ar hugain o hyd, a dengmil o led: pob hyd fydd bum mil ar hugain, a’r lled yn ddengmil.

14Hefyd ni werthant ddim ohono, ac ni chyfnewidiant, ac ni throsglwyddant flaenffrwyth y tir; oherwydd cysegredig yw i’r Arglwydd.

15A’r pum mil gweddill o’r lled, ar gyfer y pum mil ar hugain, fydd digysegredig, yn drigfa ac yn faes pentrefol i’r ddinas; a’r ddinas fydd yn ei ganol.

16A dyma ei fesurau ef; Ystlys y gogledd fydd bum cant a phedair mil, ac ystlys y deau yn bum cant a phedair mil, felly o du y dwyrain yn bum cant a phedair mil, a thua’r gorllewin yn bum cant a phedair mil.

17A maes pentrefol y ddinas fydd hefyd tua’r gogledd yn ddeucant a deg a deugain, ac yn ddeucant a deg a deugain tua’r deau, ac yn ddeucant a deg a deugain tua’r dwyrain, ac yn ddeucant a deg a deugain tua’r gorllewin.

18A’r gweddill o’r hyd, ar gyfer offrwm y rhan gysegredig, fydd yn ddengmil tua’r dwyrain, ac yn ddengmil tua’r gorllewin: ac ar gyfer offrwm y rhan gysegredig y bydd; a’i gnwd fydd yn ymborth i weinidogion y ddinas.

19A gweinidogion y ddinas a’i gwasanaethant o holl lwythau Israel.

20Yr holl offrwm fydd bum mil ar hugain, wrth bum mil ar hugain: yn bedeirongl yr offrymwch yr offrwm cysegredig, gyda pherchenogaeth y ddinas.

21A’r hyn a adewir fydd i’r tywysog, oddeutu yr offrwm cysegredig, ac o berchenogaeth y ddinas, ar gyfer y pum mil ar hugain o’r offrwm tua therfyn y dwyrain, a thua’r gorllewin, ar gyfer y pum mil ar hugain tua therfyn y gorllewin, gyferbyn â rhannau y tywysog: a’r offrwm cysegredig fydd; a chysegrfa y tŷ fydd yng nghanol hynny.

22Felly o berchenogaeth y Lefiaid, ac o berchenogaeth y ddinas, yng nghanol yr hyn sydd i’r tywysog rhwng terfyn Jwda a therfyn Benjamin, eiddo y tywysog fydd.

23Ac am y rhan arall o’r llwythau, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, y bydd rhan i Benjamin.

24Ac ar derfyn Benjamin, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, y bydd rhan i Simeon.

25Ac ar derfyn Simeon, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Issachar.

26Ac ar derfyn Issachar, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Sabulon.

27Ac ar derfyn Sabulon, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Gad.

28Ac ar derfyn Gad, ar y tu deau tua’r deau, y terfyn fydd o cynnen Cades, a hyd yr afon tua’r môr mawr.

29Dyma y tir a rennwch wrth goelbren yn etifeddiaeth i lwythau Israel, a dyma eu rhannau hwynt, medd yr Arglwydd Dduw.

30Dyma hefyd fynediad allan y ddinas, o du y gogledd pum cant a phedair mil o fesurau.

31A Dat 21:12 &cphyrth y ddinas fydd ar enwau llwythau Israel: tri phorth tua’r gogledd; porth Reuben yn un, porth Jwda yn un, porth Lefi yn un.

32Ac ar du y dwyrain pum cant a phedair mil: a thri phorth; sef porth Joseff yn un, porth Benjamin yn un, porth Dan yn un.

33A thua’r deau pum cant a phedair mil o fesurau: a thri phorth; porth Simeon yn un, a phorth Issachar yn un, a phorth Sabulon yn un.

34Tua’r gorllewin y bydd pum cant a phedair mil, a’u tri phorth; porth Gad yn un, porth Aser yn un, a phorth Nafftali yn un.

35Deunaw mil o fesurau oedd hi o amgylch: Jer 33:16ac enw y ddinas o’r dydd hwnnw allan fydd, 48:35 Jehofah Samma: Edrych Exod 17:15; Barn 6:24Yr Arglwydd sydd yno.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help