Genesis 29 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Jacob yn dyfod at ffynnon Haran. 9 Yn ymgyfeillachu â Rahel. 13 Laban yn ei groesawu ef i’w dŷ. 18 Jacob yn gwneuthur amod am Rahel. 23 Ei siomi ef â Lea. 28 Yntau yn priodi Rahel, ac yn gwasanaethu am dani hi saith mlynedd arall. 32 Lea yn dwyn Reuben, 33 Simeon, 34 Lefi, 35 a Jwda.

1A Jacob a gymerth ei daith, ac a aeth i wlad meibion y dwyrain.

2Ac efe a edrychodd, ac wele bydew yn y maes, ac wele dair diadell o ddefaid yn gorwedd wrtho; oherwydd o’r pydew hwnnw y dyfrhaent y diadelloedd: a charreg fawr oedd ar enau’r pydew.

3Ac yno y cesglid yr holl ddiadelloedd: a hwy a dreiglent y garreg oddi ar enau’r pydew, ac a ddyfrhaent y praidd; yna y rhoddent y garreg drachefn ar enau’r pydew yn ei lle.

4A dywedodd Jacob wrthynt, Fy mrodyr, o ba le yr ydych chwi? A hwy a ddywedasant, O Haran yr ydym ni.

5Ac efe a ddywedodd wrthynt, A adwaenoch chwi Laban fab Nachor? A hwy a ddywedasant, Adwaenom.

6Yntau a ddywedodd wrthynt hwy, A oes llwyddiant iddo ef? A hwy a ddywedasant, Oes, llwyddiant: ac wele Rahel ei ferch ef yn dyfod gyda’r defaid.

7Yna y dywedodd efe, Wele eto y dydd yn gynnar, nid yw bryd casglu’r anifeiliaid: dyfrhewch y praidd, ac ewch, a bugeiliwch.

8A hwy a ddywedasant, Ni allwn ni, hyd oni chasgler yr holl ddiadelloedd, a threiglo ohonynt y garreg oddi ar wyneb y pydew; yna y dyfrhawn y praidd.

9Tra yr ydoedd efe eto yn llefaru wrthynt, daeth Rahel hefyd gyda’r praidd oedd eiddo ei thad; oblegid hi oedd yn bugeilio.

10A phan welodd Jacob Rahel ferch Laban brawd ei fam, a phraidd Laban brawd ei fam; yna y nesaodd Jacob, ac hanes Jacob mab ei chwaer, yna efe a redodd i’w gyfarfod ef, ac a’i cofleidiodd ef, ac a’i cusanodd, ac a’i dug ef i’w dŷ: ac efe a fynegodd i Laban yr holl bethau hyn.

14A dywedodd Laban wrtho ef, Yn ddiau fy asgwrn i a’m cnawd ydwyt ti. Ac efe a drigodd gydag ef fis o ddyddiau.

15A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Ai oherwydd mai fy mrawd wyt ti, y’m gwasanaethi yn rhad? mynega i mi beth fydd dy gyflog?

16Ac i Laban yr oedd dwy o ferched: enw yr hynaf oedd Lea, ac enw yr ieuangaf Rahel.

17A llygaid Lea oedd weiniaid; ond Rahel oedd deg ei phryd, a glandeg yr olwg.

18A Jacob a hoffodd Rahel; ac a ddywedodd, Mi a’th wasanaethaf di saith mlynedd am Rahel dy ferch ieuangaf.

19A Laban a ddywedodd, Gwell yw ei rhoddi hi i ti, na’i rhoddi i ŵr arall: aros gyda mi.

20Felly Jacob gwlad ni, gan roddi yr ieuangaf o flaen yr hynaf.

27Cyflawna di wythnos hon, a ni a roddwn i ti hon hefyd, am y gwasanaeth a wasanaethi gyda mi eto saith mlynedd eraill.

28A Jacob a wnaeth felly, ac a gyflawnodd ei hwythnos hi: ac efe a roddodd Rahel ei ferch yn wraig iddo.

29Laban hefyd a roddodd i Rahel ei ferch, Bilha ei forwyn, yn forwyn iddi hi.

30Ac efe a aeth hefyd at Rahel, ac a hoffodd Rahel yn fwy na Lea, ac a wasanaethodd gydag ef eto saith mlynedd eraill.

31A phan welodd yr Arglwydd mai cas oedd Lea, yna efe a agorodd ei chroth hi: a Rahel oedd amhlantadwy.

32A Lea a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Reuben: oherwydd hi a ddywedodd, Diau edrych o’r Arglwydd ar fy nghystudd; canys yn awr fy ngŵr a’m hoffa i.

33A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Am glywed o’r Arglwydd mai cas ydwyf fi; am hynny y rhoddodd efe i mi hwn hefyd: a hi a alwodd ei enw ef Simeon.

34A hi a feichiogodd drachefn, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Fy ngŵr weithian a lŷn yn awr wrthyf fi, canys plentais iddo dri mab: am hynny y galwyd ei enw ef Lefi.

35A hi a feichiogodd drachefn, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Weithian y moliannaf yr Arglwydd: am hynny y galwodd ei enw ef Jwda. A hi a beidiodd â phlanta.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help