1Yr awr hon ymfyddina, merch y fyddin; gosododd gynllwyn i’n herbyn: trawant farnwr Israel â gwialen ar ei gern.
2A thithau, bortha â nerth yr Arglwydd, yn ardderchowgrwydd enw yr Arglwydd ei Dduw; a hwy a drigant: canys yr awr hon efe a fawrheir hyd eithafoedd y ddaear.
5A hwn fydd yr heddwch, pan ddêl yr Asyriad i’n tir ni: a phan sathro o fewn ein palasau, yna cyfodwn yn ei erbyn saith fugail, ac wyth o’r dynion pennaf.
6A hwy a ddinistriant dir Asyria â’r cleddyf, a thir Nimrod â’i gleddyfau noethion ei hun: ac efe a’n hachub rhag yr Asyriad, pan ddêl i’n tir, a phan sathro o fewn ein terfynau.
7A bydd gweddill Jacob yng nghanol llawer o bobl, fel y gwlith oddi wrth yr Arglwydd, megis cawodydd ar y gwelltglas, yr hwn nid erys ar ddyn, ac ni ddisgwyl wrth feibion dynion.
8A gweddill Jacob a fydd ymysg y Cenhedloedd, yng nghanol pobl lawer, fel llew ymysg bwystfilod y goedwig, ac fel cenau llew ymhlith y diadellau defaid; yr hwn, pan êl trwodd, a sathr ac a ysglyfaetha, ac ni bydd achubydd.
9Dy law a ddyrchefir yn erbyn dy wrthwynebwyr, a’th holl elynion a dorrir ymaith.
10ddelwau o’th blith; ac ni chei ymgrymu mwyach i weithredoedd dy ddwylo dy hun:
14Diwreiddiaf dy lwyni o’th ganol hefyd; a dinistriaf dy ddinasoedd.
15Ac mewn dig a llid y gwnaf ar y cenhedloedd y fath ddialedd ag na chlywsant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
