1 lawer.
2 trigfa ei orseddfainc ef.
3Tân a â allan o’i flaen ef, ac a lysg ei elynion o amgylch.
4 Salm 77:18; 104:32 Ei fellt a lewyrchasant y byd: y ddaear a welodd, ac a grynodd.
5 Barn 5:5; Micha 1:4; Nahum 1:5 Y mynyddoedd a doddasant fel cwyr o flaen yr Arglwydd, o flaen Arglwydd yr holl ddaear.
6 Salm 19:1; 50:6 Y nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef, a’r holl bobl a welant ei ogoniant.
7 Exod 20:4; Lef 26:1; Deut 5:8 Gwaradwydder y rhai oll a wasanaethant ddelw gerfiedig, y rhai a ymffrostiant mewn eilunod: Heb 1:6addolwch ef, yr holl dduwiau.
8Seion a glywodd, ac a lawenychodd; a merched Jwda a orfoleddasant, oherwydd dy farnedigaethau di, O Arglwydd.
9Canys ti, Arglwydd, wyt oruchel goruwch yr holl ddaear: Salm 95:3; 96:4dirfawr y’th ddyrchafwyd goruwch yr holl dduwiau.
10Y rhai a gerwch yr Arglwydd, Salm 34:14; 101:3; Amos 5:15; Rhuf 12:9casewch ddrygioni: efe sydd yn cadw eneidiau ei saint; efe a’u gwared o law y rhai annuwiol.
11 Salm 112:4 Heuwyd goleuni i’r cyfiawn, a llawenydd i’r rhai uniawn o galon.
12Y rhai cyfiawn, Salm 33:1llawenychwch yn yr Arglwydd; a moliennwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
