1Fy enaid, bendithia yr Arglwydd. O Arglwydd fy Nuw, tra mawr ydwyt; Gan y mynyddoedd yr ymgodant: ar hyd y dyffrynnoedd y disgynnant, i’r lle a seiliaist iddynt.
9 olew, i beri i’w wyneb ddisgleirio: a bara, yr hwn a gynnal galon dyn.
16Prennau yr Arglwydd sydd lawn sugn: cedrwydd Libanus, ynddi yr ymlusga pob bwystfil coed.
21 Job 38:39; Joel 1:20 Y cenawon llewod a ruant am ysglyfaeth, ac a geisiant eu bwyd gan Dduw.
22 Pan godo haul, ymgasglant, a gorweddant yn eu llochesau.
23Dyn a â allan i’w waith, ac i’w orchwyl hyd yr hwyr.
24Mor lluosog yw dy weithredoedd, O Arglwydd! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb: llawn yw y ddaear o’th gyfoeth.
25 Felly y mae y môr mawr, llydan: yno y mae ymlusgiaid heb rifedi, bwystfilod bychain a mawrion.
26Yno yr â y llongau: yno y mae y lefiathan, yr hwn a luniaist i chwarae ynddo.
27 Salm 136:25; 145:15; 147:9 Y rhai hyn oll a ddisgwyliant wrthyt; am roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd.
28A roddech iddynt, a gasglant: agori dy law, a diwellir hwynt â daioni.
29Ti a guddi dy wyneb, hwythau a drallodir: Job 34:14, 15; Salm 146:4; Preg 12:7dygi ymaith eu hanadl, a threngant, a dychwelant i’w llwch.
30 Esa 32:15; Esec 37:9 Pan ollyngych dy ysbryd, y crëir hwynt; ac yr adnewyddi wyneb y ddaear.
31Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragywydd: yr Arglwydd a lawenycha yn ei weithredoedd.
32Efe a edrych ar y ddaear, a hi a gryna: Salm 144:5 efe a gyffwrdd â’r mynyddoedd, a hwy a fygant.
33 Salm 63:4; 146:2 Canaf i’r Arglwydd tra fyddwyf fyw: canaf i’m Duw tra fyddwyf.
34Bydd melys fy myfyrdod amdano: mi a lawenychaf yn yr Arglwydd.
35Darfydded y pechaduriaid o’r tir, na fydded yr annuwiolion mwy. Fy enaid, bendithia di yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
