Genesis 23 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Oedran a marwolaeth Sara. 3 Prynu Machpela, 19 lle y claddwyd Sara.

1Ac oes Sara ydoedd gan mlynedd a saith mlynedd ar hugain; dyma flynyddoedd oes Sara.

2A Sara a fu farw Duw wyt ti yn ein plith: cladd dy farw yn dy ddewis o’n beddau ni: ni rwystr neb ohonom ni ei fedd i ti i gladdu dy farw.

7Yna y cyfododd Abraham, ac a ymgrymodd i bobl y tir, sef i feibion Heth;

8Ac a ymddiddanodd â hwynt, gan ddywedyd, Os yw eich ewyllys i mi gael claddu fy marw allan o’m golwg, gwrandewch fi, ac eiriolwch trosof fi ar Effron fab Sohar;

9Ar roddi ohono ef i mi yr ogof Machpela, yr hon sydd eiddo ef, ac sydd yng nghwr ei faes; er ei llawn werth o arian rhodded hi i mi, yn feddiant beddrod yn eich plith chwi.

10Ac Effron oedd yn aros ymysg meibion Heth: ac Effron yr Hethiad a atebodd Abraham, lle y clywodd meibion Heth, yng ngŵydd pawb a ddeuent i borth ei ddinas ef, gan ddywedyd,

11Edrych 2 Sam 24:21–24Nage, fy arglwydd, clyw fi: rhoddais y maes i ti, a’r ogof sydd ynddo, i ti y rhoddais hi; yng ngŵydd meibion fy mhobl y rhoddais hi i ti: cladd di dy farw.

12Ac Abraham a ymgrymodd o flaen pobl y tir.

13Ac efe a lefarodd wrth Effron lle y clybu pobl y tir, gan ddywedyd, Eto, os tydi a’i rhoddi, atolwg, gwrando fi: rhoddaf werth y maes; cymer gennyf, a mi a gladdaf fy marw yno.

14Ac Effron a atebodd Abraham, gan ddywedyd wrtho,

15Gwrando fi, fy arglwydd; y tir a dâl bedwar can Exod 30:15; Esec 45:12sicl o arian: beth yw hynny rhyngof fi a thithau? am hynny cladd dy farw.

16Felly Abraham a wrandawodd ar Effron: a phwysodd Abraham i Effron yr arian, a ddywedasai efe lle y clybu meibion Heth: pedwar can sicl o arian cymeradwy ymhlith marchnadwyr.

17Felly y sicrhawyd Pen 25:9; 50:13; Act 7:16maes Effron, yr hwn oedd ym Machpela, yr hon oedd o flaen Mamre, y maes a’r ogof oedd ynddo, a phob pren a’r a oedd yn y maes, ac yn ei holl derfynau o amgylch,

18Yn feddiant i Abraham, yng ngolwg meibion Heth, yng ngŵydd pawb a ddelynt i borth ei ddinas ef.

19Ac wedi hynny Abraham a gladdodd Sara ei wraig yn ogof maes Machpela, o flaen Mamre; honno yw Hebron, yn nhir Canaan.

20A sicrhawyd y maes, a’r ogof yr hon oedd ynddo, i Abraham, yn feddiant beddrod, oddi wrth feibion Heth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help