1A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,
2Gosod dy wyneb, fab dyn, tuag at fynydd Seir, a gwnaf di yn anghyfannedd, ac yn ddiffeithwch.
4Gosodaf dy ddinasoedd yn ddiffeithwch, a thithau a fyddi yn anghyfannedd; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd.
5Am fod gennyt alanastra tragwyddol, a thywallt ohonot waed meibion Israel â min y cleddyf, yn amser eu gofid, difa.
13Ymfawrygasoch hefyd â’ch geneuau yn fy erbyn i, ac 1 Sam 2:3amlhasoch eich geiriau i’m herbyn: mi a’u clywais.
14Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Pan lawenycho yr holl wlad, mi a’th wnaf di yn anghyfannedd.
15Obad 15Yn ôl dy lawenydd di am feddiant tŷ Israel, oherwydd ei anrheithio, felly y gwnaf i tithau: anrhaith fyddi di, mynydd Seir, ac Edom oll i gyd; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
