1Ac efe a’m dug i drachefn i ddrws y tŷ; ac wele a’r dyfroedd hyd y fferau.
4Ac efe a fesurodd fil eraill, ac a’m tywysodd trwy y dyfroedd; a’r dyfroedd hyd y gliniau: ac a fesurodd fil eraill, ac a’m tywysodd trwodd; a’r dyfroedd hyd y lwynau:
5Ac efe a fesurodd fil eraill; ac afon oedd, yr hon ni allwn fyned trwyddi: canys codasai y dyfroedd yn ddyfroedd nofiadwy, yn afon ni ellid myned trwyddi.
6Ac efe a ddywedodd wrthyf, A welaist ti hyn, fab dyn? Yna y’m tywysodd, ac y’m dychwelodd hyd lan yr afon.
7Ac wedi i mi ddychwelyd, wele gwastad, ac a ânt i’r môr: ac wedi eu myned i’r môr, yr iacheir y dyfroedd.
9A bydd i bob peth byw, yr hwn a ymlusgo, pa le bynnag y delo yr afonydd, gael byw: ac fe fydd pysgod lawer iawn, oherwydd dyfod y dyfroedd hyn yno: canys iacheir hwynt, a phob dim lle y delo yr afon fydd byw.
10A bydd i’r pysgodwyr sefyll arni, o En‐gedi hyd En‐eglaim; hwy a fyddant yn daenfa rhwydau: eu pysgod fydd yn ôl eu rhyw, fel pysgod ni iacheir; i halen y rhoddir hwynt.
12Ac wrth yr afon y cyfyd, ar ei min o’r ddeutu, bob pren ymborth; newydd; oherwydd ei ddyfroedd, hwy a ddaethant allan o’r cysegr: am hynny y bydd ei ffrwyth yn ymborth, a’i yn feddyginiaeth.
13Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Dyma y terfyn wrth yr hwn y rhennwch y tir yn etifeddiaeth i ddeuddeg llwyth Israel: tyngais ar ei roddi i’ch tadau: a’r tir hwn a syrth i chwi yn etifeddiaeth.
15A dyma derfyn y tir o du y gogledd, o’r môr mawr tua Hethlon, ffordd yr eir i Sedad:
16Hannath, Berotha, Sibraim, yr hwn sydd rhwng terfyn Damascus a therfyn Hamath: Hasar‐hattichon, yr hwn sydd ar derfyn Hauran.
17A’r terfyn o’r môr fydd o Damascus, ac o Gilead, ac o dir Israel wrth yr Iorddonen, o’r terfyn hyd fôr y dwyrain. A dyma du y dwyrain.
19A’r ystlys deau tua’r deau, o Tamar hyd ddyfroedd cynnen Cades, yr afon hyd y môr mawr. A dyma yr ystlys ddeau tua Theman.
20A thu y gorllewin fydd y môr mawr, o’r terfyn hyd oni ddeler ar gyfer Hamath. Dyma du y gorllewin.
21Felly y rhennwch y tir hwn i chwi, yn ôl llwythau Israel.
22Bydd hefyd i chwi ei rannu ef wrth goelbren yn etifeddiaeth i chwi, ac i’r dieithriaid a ymdeithiant yn eich mysg, y rhai a genhedla blant yn eich plith: a byddant i chwi fel un wedi ei eni yn y wlad ymysg meibion Israel; gyda chwi y cânt etifeddiaeth ymysg llwythau Israel.
23A bydd, ym mha lwyth bynnag yr ymdeithio y dieithr, yno y rhoddwch ei etifeddiaeth ef, medd yr Arglwydd Dduw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.