1Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd,
2Tithau fab dyn, cyfod alarnad am Tyrus;
3A dywed wrth Tyrus, O dydi yr hon wyt yn trigo wrth borthladdoedd y môr, marchnadyddes y bobloedd i ynysoedd lawer, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Tyrus, ti a ddywedaist, yng nghanol y môr; dy adeiladwyr a berffeithiasant dy degwch.
5Adeiladasant dy holl ystyllod o ffynidwydd o Senir: cymerasant gedrwydd o Libanus i wneuthur hwylbren i ti.
6Gweithiasant dy rwyfau o dderw o Basan; mintai yr Asyriaid a wnaethant dy feinciau o ifori o ynysoedd Chittim.
7Lliain main o’r Aifft o symudliw oedd yr hyn a ledit i fod yn hwyl i ti; glas a phorffor o ynysoedd Elisa, oedd dy do.
8Trigolion Sidon ac Arfad oedd dy rwyfwyr: dy ddoethion di, Tyrus, o’th fewn, oedd dy long‐lywiawdwyr.
9Henuriaid Gebal a’i doethion oedd ynot yn cau dy agennau: holl longau y môr a’u llongwyr oedd ynot ti i farchnata dy farchnad.
10Y Persiaid, a’r Ludiaid, a’r Phutiaid, oedd ryfelwyr i ti yn dy luoedd: tarian a helm a grogasant ynot; hwy a roddasant i ti harddwch.
11Meibion Arfad oedd gyda’th luoedd ar dy gaerau oddi amgylch, a’r Gammadiaid yn dy dyrau: crogasant eu tarianau ar dy gaerau oddi amgylch; hwy a berffeithiasant dy degwch.
12Tarsis oedd dy farchnadyddes oherwydd amldra pob golud; ag arian, haearn, alcam, a phlwm, y marchnatasant yn dy ffeiriau.
13Jafan, Tubal, a Mesech, hwythau oedd dy farchnadyddion: marchnatasant yn dy farchnad am ddynion a llestri pres.
14Y rhai o dŷ Togarma a farchnatasant yn dy ffeiriau â meirch, a marchogion, a mulod.
15Meibion Dedan oedd dy farchnadwyr; ynysoedd lawer oedd farchnadoedd dy law: dygasant gyrn ifori ac ebenus yn anrheg i ti.
16Aram oedd dy farchnadydd oherwydd amled pethau o’th waith di: am garbuncl, porffor, a gwaith edau a nodwydd, a lliain meinllin, a chwrel, a gemau, y marchnatasant yn dy ffeiriau.
17Jwda a thir Israel, hwythau oedd dy farchnadyddion: marchnatasant yn dy farchnad thriagl.
18Damascus oedd dy farchnadydd yn amlder dy waith oherwydd lliaws pob golud; am win Helbon, a gwlân gwyn.
19Dan hefyd a Jafan yn cyniwair a farchnatasant yn dy farchnadoedd: haearn wedi ei weithio, casia, a’r calamus, oedd yn dy farchnad.
20Dedan oedd dy farchnadydd mewn brethynnau gwerthfawr i gerbydau.
21Arabia, a holl dywysogion i ti am ŵyn, hyrddod, a bychod: yn y rhai hyn yr oedd dy farchnadyddion.
22Marchnadyddion Seba a Rama, hwythau oedd dy farchnadyddion: marchnatasant yn dy ffeiriau am bob prif beraroglau, ac am bob maen gwerthfawr, ac aur.
23Haran, a Channe, ac Eden, marchnadyddion Seba, Assur, a Chilmad, oedd yn marchnata â thi.
24Dyma dy farchnadyddion am bethau perffaith, am frethynnau gleision, a gwaith edau a nodwydd, ac am gistiau gwisgoedd gwerthfawr, wedi eu rhwymo â rhaffau a’u gwneuthur o gedrwydd, ymysg dy farchnadaeth.
25Llongau Tarsis oedd yn canu amdanat yn dy farchnad; a thi a lanwyd, ac a ogoneddwyd yn odiaeth yng nghanol y moroedd.
26Y rhai a’th rwyfasant a’th ddygasant i ddyfroedd lawer: yng nghanol y moroedd.
27Dy a’th holl gynulleidfa yr hon sydd yn dy ganol, a syrthiant yng nghanol y môr, ar ddydd dy gwymp di.
28Wrth lef gwaedd dy feistriaid llongau, y tonnau a gyffroant.
29Yna pob rhwyfwr, y morwyr, holl lywyddion y moroedd, a ddisgynnant o’u llongau, ar y tir y safant;
30A gwnânt glywed eu llef amdanat, a gwaeddant yn chwerw, a Pen 26:21dychryn fyddi, ac ni byddi byth mwyach.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.