Salm 114 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

SALM 114Dafydd, trwy esiampl y creaduriaid mudion, yn annog i ofni Duw yn ei eglwys.

1Pan Exod 13:3aeth Israel o’r Aifft, tŷ Jacob Salm 81:5oddi wrth bobl anghyfiaith;

2 Exod 6:7; 19:6; Deut 27:9 Jwda oedd ei sancteiddrwydd, ac Israel ei arglwyddiaeth.

3 Exod 14:21; Salm 77:16 Y môr a welodd hyn, ac a giliodd; Jos 3:13, 16yr Iorddonen a drodd yn ôl.

4 Salm 29:6; 68:16 Y mynyddoedd a neidiasant fel hyrddod, a’r bryniau fel ŵyn defaid.

5 Hab 3:8 Beth ddarfu i ti, O fôr, pan giliaist? tithau Iorddonen, paham y troaist yn ôl?

6 Paham, fynyddoedd, y neidiech fel hyrddod? a’r bryniau fel ŵyn defaid?

7Ofna, di ddaear, rhag yr Arglwydd, rhag Duw Jacob:

8 Exod 17:6; Num 20:11; Salm 107:35 Yr hwn sydd yn troi y graig yn llyn dwfr, a’r gallestr yn ffynnon dyfroedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help