Genesis 11 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Un iaith yn y byd. 3 Adeiladu Babel. 5 Cymysgu yr ieithoedd. 10 Cenedlaethau Sem. 27 Cenedlaethau Tera tad Abram. 31 Tera yn myned o Ur i Haran.

1A’r holl ddaear ydoedd o un iaith, ac o un ymadrodd.

2A bu, a hwy yn ymdaith o’r dwyrain, gael ohonynt wastadedd yn nhir Sinar; ac yno y trigasant.

3A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Deuwch, gwnawn briddfeini, a llosgwn yn boeth: ac yr ydoedd ganddynt briddfeini yn lle cerrig, a chlai oedd ganddynt yn lle calch.

4A dywedasant, Moeswch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr, a’i nen hyd y nefoedd, a gwnawn i ni enw, rhag ein gwasgaru ar hyd wyneb yr holl ddaear.

5A’r Arglwydd a ddisgynnodd i weled y ddinas a’r tŵr a adeiladai meibion dynion.

6A dywedodd yr Arglwydd, Wele y bobl yn un, ac un iaith iddynt oll, a dyma eu dechreuad hwynt ar weithio: ac yr awr hon nid oes rwystr arnynt am ddim oll a’r a amcanasant ei wneuthur.

7Deuwch, disgynnwn, a chymysgwn yno eu hiaith hwynt, fel na ddeallont iaith ei gilydd.

8Felly yr Arglwydd a’u gwasgarodd hwynt oddi yno ar hyd wyneb yr holl ddaear; a pheidiasant ag adeiladu’r ddinas.

9Am hynny y gelwir ei henw hi Babel; oblegid yno y cymysgodd yr Arglwydd iaith yr holl ddaear, ac oddi yno y gwasgarodd yr Arglwydd hwynt ar hyd wyneb yr holl ddaear.

10 Peleg.

17A Heber a fu fyw wedi iddo genhedlu Peleg, ddeng mlynedd ar hugain a phedwar can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

18Peleg hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Reu.

19A Pheleg a fu fyw gwedi iddo genhedlu Reu, naw o flynyddoedd a dau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

20Reu hefyd a fu fyw ddeuddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Serug.

21A Reu a fu fyw wedi iddo genhedlu Serug, saith o flynyddoedd a dau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

22Serug hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Nachor.

23A Serug a fu fyw wedi iddo genhedlu Nachor, ddau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

24Nachor hefyd a fu fyw naw mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Tera.

25A Nachor a fu fyw wedi iddo genhedlu Tera, onid un flwyddyn chwech ugain mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

26Tera hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thrigain, ac waudd, gwraig Abram ei fab; a hwy a aethant allan ynghyd o Neh 9:7; Act 7:4Ur y Caldeaid, i fyned i dir Canaan; ac a ddaethant hyd yn Haran, ac a drigasant yno.

32A dyddiau Tera oedd bum mlynedd a dau can mlynedd: a bu farw Tera yn Haran.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help