1 Mewn ing y gelwais ar yr Arglwydd; yr Arglwydd a’m clybu, ac Salm 18:19 a’m gosododd mewn ehangder.
6 Salm 27:1; 56:4, 11 Yr Arglwydd sydd gyda mi, nid ofnaf: beth a wna dyn i mi?
7 Esa 51:12; Heb 13:6 Yr Arglwydd sydd gyda mi ymhlith fy nghynorthwywyr: am hynny y caf weled fy ewyllys ar fy nghaseion.
8 Salm 54:4; 40:4; 62:8, 9; Jer 17:5, 7 Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd, nag ymddiried mewn dyn.
9 Salm 146:3 Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd, nag ymddiried mewn tywysogion.
10Yr holl genhedloedd a’m hamgylchynasant: ond yn enw yr Arglwydd mi a’u torraf hwynt ymaith.
11Amgylchynasant fi; ie, amgylchynasant fi: ond yn enw yr Arglwydd mi a’u torraf hwynt ymaith.
12Amgylchynasant fi Deut 1:44fel gwenyn; diffoddasant Preg 7:6fel tân drain: oherwydd yn enw yr Arglwydd mi a’u torraf hwynt ymaith.
13Gan wthio y gwthiaist fi, fel y syrthiwn: ond yr Arglwydd a’m cynorthwyodd.
14 Exod 15:2; Esa 12:2 Yr Arglwydd yw fy nerth a’m cân; ac sydd iachawdwriaeth i mi.
15Llef gorfoledd a iachawdwriaeth sydd ym mhebyll y cyfiawn: deheulaw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur grymuster.
16Deheulaw yr Arglwydd a ddyrchafwyd: deheulaw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur grymuster.
17 Salm 6:5; Hab 1:12 Ni byddaf farw, ond byw; a mynegaf weithredoedd yr Arglwydd.
18Gan gosbi y’m cosbodd yr Arglwydd: ond ni’m rhoddodd i farwolaeth.
19 Esa 26:2 Agorwch i mi byrth cyfiawnder: af i mewn iddynt, a chlodforaf yr Arglwydd.
20Dyma borth yr Arglwydd; Esa 35:8; Dat 21:27; 22:14, 15y rhai cyfiawn a ânt i mewn iddo.
21Clodforaf di; oherwydd i ti fy ngwrando, a’th fod yn iachawdwriaeth i mi.
22 Mat 21:42; Marc 12:10; Luc 20:17; Act 4:11; Eff 2:20; 1 Pedr 2:4, 7 Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, a aeth yn ben i’r gongl.
23O’r Arglwydd y daeth hyn; hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni.
24Dyma y dydd a wnaeth yr Arglwydd; gorfoleddwn a llawenychwn ynddo.
25Atolwg, Arglwydd, achub yn awr: atolwg, Arglwydd pâr yn awr lwyddiant.
26 Mat 21:9; 23:39; Marc 11:9; Luc 19:38; Edrych Sech 4:7 Bendigedig yw a ddêl yn enw yr Arglwydd: bendithiasom chwi o dŷ yr Arglwydd.
27 Duw yw yr Arglwydd, yr hwn a lewyrchodd i ni: rhwymwch yr aberth â rhaffau, hyd wrth gyrn yr allor.
28Fy Nuw ydwyt ti, a mi a’th glodforaf: dyrchafaf di, fy Nuw.
29Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd yn dragywydd y pery ei drugaredd ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.