Jeremeia 22 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Y mae yn annog edifeirwch, trwy addewidion a bygythion. 10 Barn Salum, 13 Jehoiacim, 20 a Coneia.

1Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Dos di i waered i dŷ brenin Jwda, a llefara yno y gair hwn;

2A dywed, Gwrando air yr Arglwydd, frenin Jwda, yr hwn wyt yn eistedd ar frenhinfainc Dafydd, ti, a’th weision, a’th bobl y rhai sydd yn dyfod i mewn trwy y pyrth hyn:

3Fel hyn y dywed yr Arglwydd, ar deyrngadair Dafydd, yn marchogaeth mewn cerbydau, ac ar feirch, efe, a’i weision, a’i bobl.

5Eithr oni wrandewch y geiriau hyn, i mi fy hun y tyngaf, medd yr Arglwydd, y bydd y tŷ hwn yn anghyfannedd.

6Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am dŷ brenin Jwda; Gilead wyt i mi, a phen Libanus: eto yn ddiau mi a’th wnaf yn ddiffeithwch, ac yn ddinasoedd anghyfanheddol.

7Paratoaf hefyd i’th erbyn anrheithwyr, pob un â’i arfau: a hwy a dorrant ffenestri, a llofft o gedrwydd, wedi ei lliwio â fermilion.

15A gei di deyrnasu, am i ti ymgau mewn cedrwydd? oni fwytaodd ac oni yfodd dy dad, ac oni wnaeth efe farn a chyfiawnder, ac yna y bu dda iddo?

16Efe a farnodd gŵyn y tlawd a’r anghenus; yna y llwyddodd: onid fy adnabod i oedd hyn? medd yr Arglwydd,

17Er hynny dy lygaid di a’th galon nid ydynt ond ar dy gybydd‐dod, ac ar dywallt gwaed gwirion, ac ar wneuthur trais, a cham.

18Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, Ni alarant amdano, gan ddywedyd, O fy mrawd! neu, O fy chwaer! ni alarant amdano ef, gan ddywedyd, O iôr! neu, O ei ogoniant ef!

19bylchau: canys dinistriwyd y rhai oll a’th garant.

21Dywedais wrthyt pan oedd esmwyth arnat; tithau a ddywedaist, Ni wrandawaf. y bydd arnynt hiraeth am ddychwelyd iddi, ni ddychwelant yno.

28Ai delw ddirmygus ddrylliedig yw y gŵr hwn Coneia? ai Pen 48:38; Hos 8:8llestr yw heb hoffter ynddo? paham y bwriwyd hwynt ymaith, efe a’i had, ac y taflwyd hwynt i wlad nid adwaenant?

29O ddaear, ddaear, ddaear, gwrando air yr Arglwydd.

30Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Ysgrifennwch y gŵr hwn yn ddi‐blant, gŵr ni ffynna yn ei ddyddiau: canys ni ffynna o’i had ef un a eisteddo ar orseddfa Dafydd, nac a lywodraetho mwyach yn Jwda.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help