1Yna Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd,
2Arglwyddiaeth ac ofn sydd gydag ef: y mae efe yn gwneuthur heddwch yn ei uchelfannau.
3A oes gyfrif o’i luoedd ef? ac ar bwy ni chyfyd ei oleuni?
4Pen 4:17, &c; 15:14, &c; Salm 130:3; 143:2Pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda Duw? neu pa fodd y bydd yr hwn a aned o wraig yn lân?
5Wele hyd yn oed y lleuad, ac ni lewyrcha hi; a’r sêr nid ydynt bur yn ei olwg ef:
6Pa faint llai dyn, yr hwn sydd Salm 22:6bryf; a mab dyn, yr hwn sydd abwydyn?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
