Luc 24 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 33. —1 Dau angel yn mynegi atgyfodiad Crist i’r gwragedd oedd yn dyfod at y bedd; 9 a’r rhai hynny yn ei adrodd i eraill. 13 Crist ei hun yn ymddangos i’r ddau ddisgybl oedd yn myned i Emaus: 36 ac wedi hynny i’r apostolion; ac yn ceryddu eu hanghrediniaeth hwy: 47 yn rhoddi gorchymyn iddynt: 49 ac yn addo yr Ysbryd Glân: 51 ac felly yn esgyn i’r nefoedd.

1A’r y byw ymysg y meirw?

6Nid yw efe yma, ond efe a gyfododd. ddiflannodd allan o’u golwg hwynt.

32A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Onid oedd ein calon ni yn llosgi ynom tra ydoedd efe yn ymddiddan â ni ar y ffordd, a thra ydoedd efe yn agoryd i ni yr ysgrythurau?

33A hwy a godasant yr awr honno, ac a ddychwelsant i Jerwsalem, ac a gawsant yr un ar ddeg wedi ymgasglu ynghyd, a’r sawl oedd gyda hwynt,

34Yn dywedyd, Yr Arglwydd a gyfododd yn wir, ac 1 Cor 15:5a ymddangosodd i Simon.

35A hwythau a adroddasant y pethau a wnaethid ar y ffordd, a pha fodd yr adnabuwyd ef ganddynt wrth doriad y bara.

36 Marc 16:14; Ioan 20:19 Ac a hwy yn dywedyd y pethau hyn, yr Iesu ei hun a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi.

37Hwythau, wedi brawychu ac ofni, a dybiasant weled ohonynt ysbryd.

38Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y’ch trallodir? a phaham y mae meddyliau yn codi yn eich calonnau?

39Edrychwch fy nwylo a’m traed, mai myfi fy hun ydyw: Ioan 20:20, 27teimlwch fi, a gwelwch: canys nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn, fel y gwelwch fod gennyf fi.

40Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a’i draed.

41Ac a hwy eto heb gredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, Ioan 21:5A oes gennych chwi yma ddim bwyd?

42A hwy a roesant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio, ac o ddil mêl.

43Yntau a’i cymerodd, ac a’i bwytaodd yn eu gŵydd hwynt.

44Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mat 16:21; 17:22; 20:18; Pen 9:22; 18:31; Ad 6Dyma’r geiriau a ddywedais i wrthych, pan oeddwn eto gyda chwi, bod yn rhaid cyflawni pob peth a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses, a’r proffwydi, a’r salmau, amdanaf fi.

45Yna Act 16:14yr agorodd efe eu deall hwynt, fel y deallent yr ysgrythurau.

46Ac efe a ddywedodd wrthynt, Salm 22; Esa 53:2, &c; Act 17:3Felly yr ysgrifennwyd, ac felly yr oedd raid i Grist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd:

47A phregethu edifeirwch a Act 13:38; 1 Ioan 2:12maddeuant pechodau yn ei enw ef ymhlith yr holl genhedloedd, gan ddechrau yn Jerwsalem.

48Ac yr ydych Ioan 15:27; Act 1:8chwi yn dystion o’r pethau hyn.

49Ac wele, Ioan 14:16, 26; 15:26; 16:7; Act 1:4; 2:1, &cyr ydwyf fi yn anfon addewid fy Nhad arnoch: eithr arhoswch chwi yn ninas Jerwsalem, hyd oni wisger chwi â nerth o’r uchelder.

50Ac efe a’u dug hwynt allan Act 1:12hyd ym Methania; ac a gododd ei ddwylo, ac a’u bendithiodd hwynt.

51Marc 16:19; Act 1:9Ac fe a ddarfu, tra oedd efe yn eu bendithio hwynt, ymadael ohono ef oddi wrthynt, ac efe a ddygwyd i fyny i’r nef.

52Mat 28:9, 17Ac wedi iddynt ei addoli ef, hwy a ddychwelsant i Jerwsalem, gyda llawenydd mawr:

53Ac yr oeddynt yn wastadol Act 2:46; 5:42yn y deml, yn moli ac yn bendithio Duw. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help