2 Samuel 19 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Joab yn peri i’r brenin beidio â galaru. 9 Yr Israeliaid yn daer am ddwyn y brenin adref. 11 Dafydd yn anfon at yr offeiriaid i gynhyrfu gwŷr Jwda. 18 Simei yn cael ei bardwn; 24 a Meffiboseth ei esgusodi. 32 Barsilai yn cael cennad i fyned adref; a chymryd Chimham ei fab ef i dŷ y brenin. 41 Yr Israeliaid yn ymsennu â gwŷr Jwda, am ddwyn y brenin adref hebddynt hwy.

1A mynegwyd i Joab, Wele y brenin yn wylo, ac yn galaru am Absalom.

2A’r fuddugoliaeth a aeth y dwthwn hwnnw yn alar i’r holl bobl: canys clywodd y bobl y diwrnod hwnnw ddywedyd, dristáu o’r brenin am ei fab.

3A’r bobl a aethant yn lladradaidd y diwrnod hwnnw i mewn i’r ddinas, fel pobl a fyddai yn myned yn lladradaidd wedi eu cywilyddio wrth ffoi o ryfel.

4Ond y brenin yn deg wrth dy weision: canys yr wyf fi yn tyngu i’r Arglwydd, os ti nid ei allan, nad erys neb gyda thi y nos hon; a gwaeth fydd hyn i ti na’r holl ddrwg a ddaeth i’th erbyn di o’th febyd hyd yr awr hon.

8Yna y brenin a gyfododd, ac a eisteddodd yn y porth. A mynegwyd i’r holl bobl, gan ddywedyd, Wele y brenin yn eistedd yn y porth. A’r holl bobl a ddaethant o flaen y brenin: canys Israel a ffoesai bob un i’w babell.

9Ac yr oedd yr holl bobl yn ymryson trwy holl lwythau Israel, gan ddywedyd, Y brenin a’n gwaredodd ni o law ein gelynion, ac efe a’n gwaredodd ni o law y Philistiaid; ac yn awr efe a ffodd o’r wlad rhag Absalom.

10Ac Absalom, yr hwn a eneiniasom ni arnom, a fu farw mewn rhyfel: ac yn awr paham yr ydych heb sôn am gyrchu y brenin drachefn?

11A’r brenin Dafydd a anfonodd at Sadoc ac at Abiathar yr offeiriaid, gan ddywedyd, Lleferwch wrth henuriaid Jwda, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi olaf i ddwyn y brenin yn ei ôl i’w dŷ? canys gair holl Israel a ddaeth at y brenin, hyd ei dŷ.

12Fy mrodyr ydych chwi; fy asgwrn a’m cnawd ydych chwi: paham gan hynny yr ydych yn olaf i ddwyn y brenin adref?

13Dywedwch hefyd wrth Amasa, meirw gerbron fy arglwydd y brenin; eto erfyniech di arnaf fi, mi a’i gwnaf erot.

39A’r holl bobl a aethant dros yr Iorddonen. Y brenin hefyd a aeth drosodd: a’r brenin a gusanodd Barsilai, ac a’i bendithiodd ef; ac efe a ddychwelodd i’w fangre ei hun.

40Yna y brenin a aeth i Gilgal, a Chimham a aeth gydag ef. A holl bobl Jwda a hebryngasant y brenin, a hanner pobl Israel hefyd.

41Ac wele, holl wŷr Israel a ddaethant at y brenin, ac a ddywedasant wrth y brenin, Paham y lladrataodd ein brodyr ni, gwŷr Jwda, dydi, ac y dygasant y brenin a’i dylwyth dros yr Iorddonen, a holl wŷr Dafydd gydag ef?

42Ac atebodd holl wŷr Jwda i wŷr Israel, Oblegid câr agos yw y brenin i ni: paham gan hynny y digiasoch chwi am y peth hyn? a fwytasom ni ddim ar draul y brenin? neu a anrhegodd efe ni ag anrheg?

43A gwŷr Israel a atebasant wŷr Jwda, ac a ddywedasant, Deg rhan sydd i ni yn y brenin; hefyd y mae i ni yn Dafydd fwy nag i chwi: paham gan hynny y diystyraist fi? onid myfi a ddywedais yn gyntaf am gyrchu adref fy mrenin? Ac Edrych Barn 8:1; 12:1ymadrodd gwŷr Jwda oedd galetach nag ymadrodd gwŷr Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help