1 Corinthiaid 14 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 59. —1 Canmol proffwydoliaeth, 2, 3, 4 a’i osod o flaen llefaru â thafodau, 7 trwy gyffelybrwydd oddi wrth offer cerdd: 12 rhaid yw cyfeirio pob un o’r ddau tuag at adeiladaeth, 22 megis tuag at eu gwir a’u priodol bennod: 26 iawn‐arfer pob un o’r ddau, 27 a’u cam‐arfer. 34 Gwarafun gwragedd i lefaru yn yr eglwys.

1Dilynwch gariad, a gwrando; er hynny yn yr ysbryd y mae efe yn llefaru dirgeledigaethau.

3Eithr yr hwn sydd yn proffwydo, sydd yn llefaru wrth ddynion er adeiladaeth, a chyngor, a chysur.

4Yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr, sydd yn ei adeiladu ei hunan: eithr yr hwn sydd yn proffwydo, sydd yn adeiladu yr eglwys.

5Mi a fynnwn petech chwi oll yn llefaru â thafodau dieithr; ond yn hytrach broffwydo ohonoch: canys mwy yw’r hwn sydd yn proffwydo, na’r hwn sydd yn llefaru â thafodau; oddieithr iddo ei gyfieithu, fel y derbynio yr eglwys adeiladaeth.

6Ac yr awr hon, frodyr, os deuaf atoch gan lefaru â thafodau, pa lesâd a wnaf i chwi, oni lefaraf wrthych naill ai trwy sain, pa wedd y gwybyddir y peth a genir ar y bibell neu ar y delyn?

8Canys os yr utgorn a rydd sain anhynod, pwy a ymbaratoa i ryfel?

9Felly chwithau, oni roddwch â’r tafod ymadrodd deallus, pa wedd y gwybyddir y peth a leferir? canys chwi a fyddwch yn llefaru wrth yr awyr.

10Y mae cymaint, ysgatfydd, o rywogaethau lleisiau yn y byd, ac nid oes un ohonynt yn aflafar.

11Am hynny, oni wn i rym y llais, myfi a fyddaf farbariad i’r hwn sydd yn llefaru, a’r hwn sydd yn llefaru a fydd i mi yn farbariad.

12Felly chwithau, gan eich bod yn awyddus i ddoniau ysbrydol, ceisiwch ragori tuag at adeiladaeth yr eglwys.

13Oherwydd paham, yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr, gweddïed ar iddo allu cyfieithu.

14Canys os gweddïaf â thafod dieithr, y mae fy ysbryd yn gweddïo, ond y mae fy neall yn ddiffrwyth.

15Beth gan hynny? Mi a weddïaf â’r ysbryd, ac a weddïaf â’r deall hefyd: anghyfarwydd, Amen, ar dy ddodiad diolch, gan nas gŵyr beth yr wyt yn ei ddywedyd?

17Canys tydi yn ddiau ydwyt yn diolch yn dda, ond y llall nid yw yn cael ei adeiladu.

18Yr ydwyf yn diolch i’m Duw, fy mod i yn llefaru â thafodau yn fwy na chwi oll:

19Ond yn yr eglwys gwell gennyf lefaru pum gair trwy fy neall, fel y dysgwyf eraill hefyd, na myrddiwn o eiriau mewn tafod dieithr.

20O frodyr, berffaith.

21Yn y ddeddf y mae yn ysgrifenedig, Esa 28:11, 12Trwy rai estronieithus, a thrwy wefusau estronol, y llefaraf wrth y bobl hyn; ac ni’m gwrandawant felly, medd yr Arglwydd.

22Am hynny tafodau ydynt arwydd, nid i’r rhai sydd yn credu, ond i’r rhai di‐gred: eithr proffwydoliaeth, nid i’r rhai di‐gred, ond i’r rhai sydd yn credu.

23Gan hynny os daw’r eglwys oll ynghyd i’r un lle, a llefaru o bawb â thafodau dieithr, a dyfod o rai annysgedig neu ddi‐gred i mewn; oni ddywedant eich bod yn ynfydu?

24Eithr os proffwyda pawb, a dyfod o un di‐gred neu annysgedig i mewn, efe a argyhoeddir gan bawb, a fernir gan bawb:

25Ac felly y gwneir dirgelion ei galon ef yn amlwg; ac felly gan syrthio ar ei wyneb, efe a addola Dduw, gan ddywedyd Esa 45:14; Sech 8:23fod Duw yn wir ynoch.

26Beth gan hynny, frodyr? pan ddeloch ynghyd, y mae gan bob un ohonoch salm, y mae ganddo athrawiaeth, Ad. 6; Pen 12:8, 9, 10y mae ganddo dafodiaith, y mae ganddo ddatguddiad, y mae ganddo gyfieithiad. Gwneler pob peth er adeiladaeth.

27Os llefara neb â thafod dieithr, gwneler bob yn ddau, neu o’r mwyaf bob yn dri, a hynny ar gylch; a chyfieithed un.

28Eithr oni bydd cyfieithydd, tawed yn yr eglwys; eithr llefared wrtho’i hun, ac wrth Dduw.

29A llefared y proffwydi ddau neu dri, a barned y lleill.

30Ac os datguddir dim i un arall a fo yn eistedd yno, tawed y cyntaf.

31Canys chwi a ellwch oll broffwydo bob yn un, fel y dysgo pawb, ac y cysurer pawb.

32Ac y mae ysbrydoedd y proffwydi yn ddarostyngedig i’r proffwydi.

33Canys nid yw Duw awdur anghydfod, ond tangnefedd, Pen 11:16fel yn holl eglwysi’r saint.

341 Tim 2:11, 12Tawed eich gwragedd yn yr eglwysi: canys ni chaniatawyd iddynt lefaru; ond Pen 11:3; Eff 5:22; Col 3:18; 1 Pedr 3:1bod yn ddarostyngedig, megis ag y mae’r Gen 3:16gyfraith yn dywedyd.

35Ac os mynnant ddysgu dim, ymofynnant â’u gwŷr gartref: oblegid anweddaidd yw i wragedd lefaru yn yr eglwys.

36Ai oddi wrthych chwi yr aeth gair Duw allan? neu ai atoch chwi yn unig y daeth efe?

372 Cor 10:7; 1 Ioan 4:6Os ydyw neb yn tybied ei fod yn broffwyd, neu yn ysbrydol, cydnabydded y pethau yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, mai gorchmynion yr Arglwydd ydynt.

38Eithr od yw neb heb wybod, bydded heb wybod.

39Am hynny, frodyr, byddwch awyddus i broffwydo, ac na waherddwch lefaru â thafodau dieithr.

40Gwneler pob peth yn weddaidd, ac mewn trefn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help