Barnwyr 17 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Ei fam yn gwneuthur delwau o’r arian a ladratasai Mica, ac a roesai yn eu hôl. 5 Yntau yn gwneuthur gwisgoedd iddynt; 7 ac yn cyflogi Lefiad i fod yn offeiriad iddo.

1Ac yr oedd gŵr o fynydd Effraim, a’i enw Mica.

2Ac efe a ddywedodd wrth ei fam, Y mil a’r can sicl arian a dducpwyd oddi arnat, ac y rhegaist amdanynt, ac y dywedaist hefyd lle y clywais; wele yr arian gyda mi, myfi a’i cymerais. A dywedodd ei fam, Bendigedig fyddych, fy mab, gan yr Arglwydd.

3A phan roddodd efe y mil a’r can sicl arian adref i’w fam, ei fam a ddywedodd, Gan gysegru y cysegraswn yr arian i’r Arglwydd o’m llaw, i’m mab, i wneuthur delw gerfiedig a thoddedig: am hynny yn awr mi a’i rhoddaf eilwaith i ti.

4Eto efe a dalodd yr arian i’w fam. A’i fam a gymerth ddau can sicl o arian, ac a’u rhoddodd i’r toddydd; ac efe a’u gwnaeth yn ddelw gerfiedig, a thoddedig: a hwy a fuant yn nhŷ Mica.

5A chan y gŵr hwn Mica yr oedd tŷ duwiau; ac efe a wnaeth gysegrodd un o’i feibion i fod yn offeiriad iddo.

6phâr o ddillad, a’th luniaeth. Felly y Lefiad a aeth i mewn.

11A’r Lefiad a fu fodlon i aros gyda’r gŵr; a’r gŵr ieuanc oedd iddo fel un o’i feibion.

12A Mica a urddodd y Lefiad; a’r gŵr ieuanc fu yn offeiriad iddo, ac a fu yn nhŷ Mica.

13Yna y dywedodd Mica, Yn awr y gwn y gwna yr Arglwydd ddaioni i mi; gan fod Lefiad gennyf yn offeiriad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help