Sechareia 1 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Sechareia yn annog edifeirwch. 7 Gweledigaeth y meirch. 12 Trwy weddi yr angel y gwneir addewidion cysurlon i Jerusalem. 18 Gweledigaeth y pedwar corn, a’r pedwar saer.

1Yn yr wythfed mis oddiwes eich tadau? a hwy a ddychwelsant, ac a ddywedasant, brithion, a gwynion.

9Yna y dywedais, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd? A dywedodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi wrthyf, Mi a ddangosaf i ti beth yw y rhai hyn.

10A’r gŵr, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, a atebodd ac a ddywedodd, Dyma y rhai a hebryngodd yr Arglwydd i ymrodio trwy y ddaear.

11A hwythau a atebasant angel yr Arglwydd, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y coed myrt, ac a ddywedasant, Rhodiasom trwy y ddaear; ac wele yr holl ddaear yn eistedd, ac yn llonydd.

12Ac angel yr Arglwydd a atebodd ac a ddywedodd, Dat 6:10O Arglwydd y lluoedd, pa hyd na thrugarhei wrth Jerwsalem, a dinasoedd Jwda, wrth y rhai y digiaist Dan 9:2y deng mlynedd a thrigain hyn?

13A’r Arglwydd a atebodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi, â geiriau daionus, a geiriau comfforddus.

14A’r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi a ddywedodd wrthyf, Gwaedda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Pen 8:2Deliais eiddigedd mawr dros Jerwsalem a thros Seion:

15A digiais yn ddirfawr wrth y cenhedloedd difraw; Esa 47:6y rhai pan ddigiais ychydig, hwythau a gynorthwyasant y niwed.

16Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Dychwelais at Jerwsalem â thrugareddau: fy nhŷ a adeiledir ynddi, medd Arglwydd y lluoedd, a llinyn a estynnir ar Jerwsalem.

17Gwaedda eto, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Fy ninasoedd a ymehangant gan ddaioni, a’r Arglwydd a rydd gysur i Seion eto, ac Esa 14:1; Pen 2:12a ddewis Jerwsalem eto.

18A chodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele, bedwar corn.

19A dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, Beth yw y rhai hyn? Dywedodd yntau wrthyf, Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Jwda, Israel, a Jerwsalem.

20A’r Arglwydd a ddangosodd i mi bedwar saer hefyd.

21Yna y dywedais, I wneuthur pa beth y daw y rhai hyn? Ac efe a lefarodd, gan ddywedyd, Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Jwda, fel na chodai un ei ben: ond y rhai hyn a ddaethant i’w tarfu hwynt, i daflu allan gyrn y Cenhedloedd, y rhai a godasant eu cyrn ar wlad Jwda i’w gwasgaru hi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help