Jeremeia 27 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Dan rith rhwymau ac ieuau, y mae yn proffwydo y darostyngid dan Nebuchodonosor y brenhinoedd oedd gymdogion iddo. 8 Y mae yn eu hannog i ymroi, ac na chredent y gau‐broffwydi. 12 Y mae yn gwneuthur yr un peth i Sedeceia: 19 yn darogan y dygid yr hyn a adawsid o’r llestri i Babilon, ac y byddent yno hyd ddydd yr ymweliad.

1Yn nechrau teyrnasiad Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, y daeth y gair hwn at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd,

2Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf, Gwna i ti rwymau a gefynnau, a dod hwynt am dy wddf;

3Ac anfon hwynt at frenin Edom, ac at frenin Moab, ac at frenin meibion Ammon, ac at frenin Tyrus, ac at frenin Sidon, yn llaw y cenhadau a ddelo i Jerwsalem at Sedeceia brenin Jwda;

4A gorchymyn iddynt ddywedyd wrth eu harglwyddi, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Fel hyn y dywedwch wrth eich arglwyddi;

5Myfi a wneuthum y ddaear, y dyn a’r anifail sydd ar wyneb y ddaear, â’m grym mawr, ac â’m braich estynedig, ac breuddwydwyr, nac ar eich hudolion, nac ar eich swynyddion, y rhai sydd yn llefaru wrthych, gan ddywedyd, Nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon:

10Canys celwydd y mae y rhai hyn yn ei broffwydo i chwi, i’ch gyrru chwi ymhell o’ch gwlad, ac fel y bwriwn chwi ymaith, ac y methoch.

11Ond y genedl a roddo ei gwddf dan iau brenin Babilon, ac a’i gwasanaetho ef, y rhai hynny a adawaf fi yn eu gwlad eu hun, medd yr Arglwydd; a hwy a’i llafuriant hi, ac a drigant ynddi.

12Ac mi a leferais wrth Sedeceia brenin Jwda yn ôl yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd, Rhoddwch eich gwarrau dan iau brenin Babilon, a gwasanaethwch ef a’i bobl, fel y byddoch byw.

13Paham y byddwch feirw, ti a’th bobl, trwy y cleddyf, trwy newyn, a thrwy haint, fel y dywedodd yr Arglwydd yn erbyn y genedl ni wasanaethai frenin Babilon?

14Am hynny na wrandewch ar eiriau y proffwydi y rhai a lefarant wrthych, gan ddywedyd, Nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon: canys Pen 14:14; 23:21; 29:8y maent yn proffwydo celwydd i chwi.

15Oherwydd nid myfi a’u hanfonodd hwynt, medd yr Arglwydd; er hynny hwy a broffwydant yn fy enw ar gelwydd, fel y gyrrwn chwi ymaith, ac y darfyddai amdanoch chwi, a’r proffwydi sydd yn proffwydo i chwi.

16Myfi a leferais hefyd wrth yr offeiriaid, a’r holl bobl hyn, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Na wrandewch ar eiriau eich proffwydi, y rhai sydd yn proffwydo i chwi, gan ddywedyd, Wele, Pen 23:3llestri tŷ yr Arglwydd a ddygir yn eu hôl o Babilon bellach ar frys; canys celwydd y maent yn ei broffwydo i chwi.

17Na wrandewch arnynt; gwasanaethwch chwi frenin Babilon, a byddwch fyw: paham y byddai y ddinas hon yn ddiffeithwch?

18Ond os proffwydi ydynt hwy, ac od ydyw gair yr Arglwydd gyda hwynt, eiriolant yr awr hon ar Arglwydd y lluoedd, nad elo y llestri a adawyd yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn nhŷ brenin Jwda, ac yn Jerwsalem, i Babilon.

19Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, am y colofnau, ac am y môr, ac am yr ystolion, ac am y rhan arall o’r llestri a adawyd yn y ddinas hon,

20Y rhai ni ddug Nebuchodonosor brenin Babilon ymaith, pan 2 Bren 24:14, 15; Pen 24:1gaethgludodd efe Jechoneia, mab Jehoiacim brenin Jwda, o Jerwsalem i Babilon, a holl bendefigion Jwda a Jerwsalem;

21Ie, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, am y llestri a adawyd yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn nhŷ brenin Jwda a Jerwsalem;

222 Bren 25:13; 2 Cron 36:18Hwy a ddygir i Babilon, ac yno y byddant hyd y dydd 2 Cron 36:21; Pen 29:10yr ymwelwyf â hwynt, medd yr Arglwydd: yna Esra 1:7; 7:19y dygaf hwynt i fyny, ac y dychwelaf hwynt i’r lle hwn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help