1A phan glybu Jabin brenin Hasor y pethau hynny, efe a anfonodd at Jobab brenin Madon, ac at frenin Simron, ac at frenin Achsaff,
2Ac at y brenhinoedd oedd o du y gogledd yn y mynydd‐dir, ac yn y rhostir tua’r deau i Cinneroth, ac yn y dyffryn, ac yn ardaloedd Dor tua’r gorllewin;
3At y Canaaneaid o’r dwyrain a’r gorllewin, ac at yr Amoriaid, a’r Hethiaid, a’r Pheresiaid, a’r Jebusiaid, yn y mynydd‐dir, ac at yr Hefiaid dan Hermon, yng ngwlad Mispe.
4A hwy a aethant allan, a’u holl fyddinoedd gyda hwynt, pobl lawer, fel y tywod sydd ar fin y môr o amldra; meirch hefyd a cherbydau lawer iawn.
5A’r holl frenhinoedd hyn a ymgyfarfuant; daethant hefyd a gwersyllasant ynghyd wrth ddyfroedd Merom, i ymladd yn erbyn Israel.
6A dywedodd yr Arglwydd wrth Josua, Nac ofna rhagddynt hwy: canys yfory ynghylch y pryd hyn y rhoddaf hwynt oll yn lladdedig o flaen Israel: Sidon fawr, ac hyd Misreffoth‐maim, ac hyd glyn Mispe o du y dwyrain; a hwy a’u trawsant hwynt, fel na adawodd efe ohonynt un yng ngweddill.
9A Josua a wnaeth iddynt fel yr archasai yr Arglwydd iddo: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorrodd efe, a’u cerbydau a losgodd â thân.
10A Josua y pryd hwnnw a ddychwelodd, ac a enillodd Hasor, ac a drawodd ei brenin hi â’r cleddyf: canys Hasor o’r blaen oedd ben yr holl deyrnasoedd hynny.
11Trawsant hefyd bob enaid a’r oedd ynddi â min y cleddyf, gan eu difrodi hwynt: ni adawyd un perchen anadl: ac efe a losgodd Hasor â thân.
12A holl ddinasoedd y brenhinoedd hynny, a’u holl frenhinoedd hwynt, a enillodd Josua, ac a’u trawodd â min y cleddyf, gan eu difrodi hwynt: yn eu cadernid; namyn Hasor yn unig a losgodd Josua.
14A holl anrhaith y dinasoedd hynny, a’r anifeiliaid, a ysglyfaethodd meibion Israel iddynt eu hun: yn unig pob dyn a drawsant hwy â min y cleddyf, nes iddynt eu difetha; ni adawsant berchen anadl.
15 adawodd efe ddim o’r hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd i Moses.
16Felly Josua a enillodd yr holl dir hwnnw, y mynyddoedd, a’r holl ddeau, a holl wlad Gosen, a’r dyffryn, a’r gwastadedd, a mynydd Israel, a’i ddyffryn;
17O fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir, hyd Baal‐gad, yng nglyn Libanus, dan fynydd Hermon: a’u holl frenhinoedd hwynt a ddaliodd efe; trawodd hwynt hefyd, ac a’u rhoddodd i farwolaeth.
18Josua a gynhaliodd ryfel yn erbyn yr holl frenhinoedd hynny ddyddiau lawer.
19Nid oedd dinas a’r a heddychodd â meibion Israel, heblaw Pen 9:3yr Hefiaid preswylwyr Gibeon; yr holl rai eraill a enillasant hwy trwy ryfel.
20Canys Deut 2:30o’r Arglwydd yr ydoedd galedu eu calon hwynt i gyfarfod ag Israel mewn rhyfel, fel y difrodai efe hwynt, ac na fyddai iddynt drugaredd; ond fel y difethai efe hwynt, Deut 20:16, 17fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
21A’r pryd hwnnw y daeth Josua ac a dorrodd Num 13:22, 23; Deut 1:28yr Anaciaid ymaith o’r mynydd‐dir, o Hebron, o Debir, o Anab, ac o holl fynyddoedd Jwda, ac o holl fynyddoedd Israel: Josua a’u difrododd hwynt a’u dinasoedd.
22Ni adawyd un o’r Anaciaid yng ngwlad meibion Israel: yn unig yn Gasa, yn Gath, ac yn Asdod, y gadawyd hwynt.
23Felly Josua a enillodd yr holl wlad, yn ôl yr hyn oll a lefarasai yr Arglwydd wrth Moses; a Josua a’i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i Israel, Num 26:53yn ôl eu rhannau hwynt, trwy eu llwythau. Pen 14—19; 21:43; 22:4; 23:1A’r wlad a orffwysodd heb ryfel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.