2 Cronicl 19 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Jehu yn ceryddu Jehosaffat, ac yntau yn ymweled â’i deyrnas, 5 ac yn rhoi athrawiaeth i’w farnwyr, 8 ac i’r offeiriaid a’r Lefiaid.

1A Jehosaffat brenin Jwda a ddychwelodd i’w dŷ ei hun i Jerwsalem mewn heddwch.

2A Jehu mab Hanani aeth drachefn trwy’r bobl o Beerseba hyd fynydd Effraim, ac a’u dug hwynt eilwaith at Arglwydd Dduw eu tadau.

5Ac efe a osododd farnwyr yn y wlad, trwy holl ddinasoedd caerog Jwda, o ddinas bwygilydd;

6Ac efe a ddywedodd wrth y barnwyr, Edrychwch beth a wneloch: canys wrth roddi barn.

7Yn awr gan hynny bydded ofn yr Arglwydd arnoch chwi; gwyliwch a gwnewch hynny: oherwydd Deut 32:4; Rhuf 9:14nid oes anwiredd gyda’r Arglwydd ein Duw, na Deut 10:17; Job 34:19; Act 10:34; Rhuf 2:11; Gal 2:6; Eff 6:9; Col 3:25; 1 Pedr 1:17derbyn wyneb, na chymryd gwobr.

8A Jehosaffat Deut 16:18a osododd hefyd yn Jerwsalem rai o’r Lefiaid, ac o’r offeiriaid, ac o bennau tadau Israel, i drin barnedigaethau yr Arglwydd, ac amrafaelion, pan ddychwelent i Jerwsalem.

9Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnewch mewn ofn yr Arglwydd, mewn ffyddlondeb, ac â chalon berffaith.

10Deut 17:8A pha amrafael bynnag a ddêl atoch chwi oddi wrth eich brodyr, y rhai sydd yn trigo yn eu dinasoedd, rhwng gwaed a gwaed, rhwng cyfraith a gorchymyn, deddfau a barnedigaethau, rhybuddiwch hwynt na throseddont yn erbyn yr Arglwydd, a bod digofaint arnoch chwi, ac ar eich brodyr: felly gwnewch ac na throseddwch.

11Ac wele, Amareia yr archoffeiriad sydd arnoch chwi 1 Cron 26:30ym mhob peth a berthyn i’r Arglwydd; a Sebadeia mab Ismael, blaenor tŷ Jwda, ym mhob achos i’r brenin; a’r Lefiaid yn swyddogion ger eich bron chwi. Ymwrolwch, a gwnewch hynny, a’r Arglwydd fydd gyda’r daionus.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help