Mathew 12 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 31. —1 Crist yn ceryddu dallineb y Phariseaid, o ran torri y Saboth; 3 trwy ysgrythyrau, 10 trwy reswm, 13 a thrwy ryfeddod; 22 yn iacháu y dyn cythreulig, mud a dall. 31 Ni faddeuir byth gabledd yn erbyn yr Ysbryd Glân. 36 Y rhoddir cyfrif am eiriau segur. 38 Y mae yn ceryddu yr anffyddloniaid a geisient arwydd; 49 ac yn dangos pwy yw ei frawd, a’i chwaer, a’i fam.

1Yr amser hwnnw rydd ei wneuthur ar y Saboth.

3Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch rhydd iacháu ar y Sabothau? fel y gallent achwyn arno.

11Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddyn ohonoch fydd a chanddo un ddafad, ac rhydd yw gwneuthur yn dda ar y Sabothau.

13Yna y dywedodd efe wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a’i hestynnodd; a hi a wnaed yn iach, fel y llall.

14Yna yr aeth ymgyngorasant yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef.

15A’r Iesu gan wybod, wnaent ef yn gyhoedd:

17Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd,

18Beelsebub pennaeth y cythreuliaid.

25A’r Iesu yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanheddir; a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni saif.

26Ac os Satan a fwrw allan Satan, efe a ymrannodd yn ei erbyn ei hun: pa wedd gan hynny y saif ei deyrnas ef?

27Ac os trwy Beelsebub yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi.

28Eithr os ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid trwy Ysbryd Duw, yna y daeth teyrnas Dduw atoch.

29Neu, Esa 49:24; Luc 11:22pa fodd y dichon neb fyned i mewn i dŷ un cadarn, a llwyr ysbeilio ei ddodrefn ef, oddieithr iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn? ac yna yr ysbeilia efe ei dŷ ef.

30Y neb nid yw gyda mi, sydd yn fy erbyn; a’r neb nid yw yn casglu gyda mi, sydd yn gwasgaru.

31Am hynny y dywedaf wrthych chwi, Marc 3:28; Luc 12:10; Heb 6:4; 10:26, 29; 1 Ioan 5:16Pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion: ond cabledd yn erbyn yr Ysbryd Glân ni faddeuir i ddynion.

32A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, 1 Tim 1:13fe a faddeuir iddo: ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Ysbryd Glân, nis maddeuir iddo, nac yn y byd hwn, nac yn y byd a ddaw.

33Naill ai gwnewch y pren yn dda, Pen 7:17; Luc 6:43, 44a’i ffrwyth yn dda; ai gwnewch y pren yn ddrwg, a’i ffrwyth yn ddrwg: canys y pren a adwaenir wrth ei ffrwyth.

34Pen 3:7; 23:33O epil gwiberod, pa wedd y gellwch lefaru pethau da, a chwi yn ddrwg? Luc 6:45canys o helaethrwydd y galon y llefara’r genau.

35Y dyn da, o drysor da’r galon, a ddwg allan bethau da: a’r dyn drwg, o’r trysor drwg, a ddwg allan bethau drwg.

36Eithr yr ydwyf yn dywedyd wrthych, Mai am bob gair segur a ddywedo dynion, y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y farn.

37Canys wrth dy eiriau y’th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau y’th gondemnir.

38 Pen 16:1 ; Marc 8:11; Luc 11:16, 29; 1 Cor 1:22Yna yr atebodd rhai o’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid, gan ddywedyd, Athro, ni a chwenychem weled arwydd gennyt.

39Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Cenhedlaeth ddrwg a Esa 57:3godinebus sydd yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd y proffwyd Jonas:

40Jona 1:17Canys fel y bu Jonas dridiau a thair nos ym mol y morfil, felly y bydd Mab y dyn dridiau a thair nos yng nghalon y ddaear.

41Luc 11:32Gwŷr Ninefe a gyfodant yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i Jer 3:11; Esec 16:51; Rhuf 2:27condemniant hi; am iddynt hwy Jona 3:5edifarhau wrth bregeth Jonas: ac wele fwy na Jonas yma.

421 Bren 10:1; 2 Cron 9:1; Luc 11:31Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i condemnia hi; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon: ac wele fwy na Solomon yma.

43Luc 11:24A phan êl yr ysbryd aflan allan o ddyn, Job 1:7; 1 Pedr 5:8efe a rodia ar hyd lleoedd sychion, gan geisio gorffwystra, ac nid yw yn ei gael.

44Yna medd efe, Mi a ddychwelaf i’m tŷ o’r lle y deuthum allan. Ac wedi y delo, y mae yn ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a’i drwsio.

45Yna y mae efe yn myned, ac yn cymryd gydag ef ei hun saith ysbryd eraill gwaeth nag ef ei hun; ac wedi iddynt fyned i mewn, hwy a gyfanheddant yno: Heb 6:4; 10:26; 2 Pedr 2:20ac y mae diwedd y dyn hwnnw yn waeth na’i ddechreuad. Felly y bydd hefyd i’r genhedlaeth ddrwg hon.

46Tra ydoedd efe yn llefaru wrth y torfeydd, Marc 3:31; Luc 8:19, 20wele, ei fam a’i Pen 13:55; Marc 6:3; Ioan 2:12; 7:3; Act 1:14; 1 Cor 9:5; Gal 1:19frodyr oedd yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan ag ef.

47A dywedodd un wrtho, Wele, y mae dy fam di a’th frodyr yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan â thi.

48Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrth yr hwn a ddywedasai wrtho, Pwy yw fy mam i? a phwy yw fy mrodyr i?

49Ac efe a estynnodd ei law tuag at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd, Wele fy mam i, a’m brodyr i:

50Canys Edrych Ioan 15:14; Gal 5:6; 6:15; Col 3:11pwy bynnag a wna ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd, efe yw fy mrawd i, a’m chwaer, a’m mam.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help