1Dyrchefais fy llygaid drachefn, ac edrychais; ac wele ŵr, ac yn ei law linyn mesur.
2A dywedais, I ba le yr ei di? Ac efe a ddywedodd wrthyf, maestrefi, rhag amled dyn ac anifail o’i mewn.
5Canys byddaf iddi yn fur o dân o amgylch, medd yr Arglwydd, a Esa 60:19byddaf yn ogoniant yn ei chanol.
6Ho, ho, deuwch allan, a Esa 48:20; 52:11; Jer 50:8; 51:6, 45; Dat 18:4ffowch o wlad y gogledd, medd yr Arglwydd: canys taenais chwi fel pedwar gwynt y nefoedd, medd yr Arglwydd.
7O Seion, ymachub, yr hon wyt yn preswylio gyda merch Babilon.
8Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Ar ôl y gogoniant y’m hanfonodd at y cenhedloedd y rhai a’ch ysbeiliasant chwi: canys Deut 32:10; Salm 17:8a gyffyrddo â chwi, sydd yn cyffwrdd â channwyll ei lygad ef.
9Canys wele fi yn ysgwyd fy llaw arnynt, a byddant yn ysglyfaeth i’w gweision: a Pen 4:9chânt wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hanfonodd.
10 Esa 12:6; 54:1; Seff 3:14 Cân a llawenycha, merch Seion: canys wele fi yn dyfod; a Lef 26:12; Esec 37:27; Ioan 1:14; 2 Cor 6:16mi a drigaf yn dy ganol di, medd yr Arglwydd.
11A’r dydd hwnnw cenhedloedd lawer a ymlynant wrth yr Arglwydd, ac a fyddant Exod 12:49bobl i mi: a mi a drigaf yn dy ganol di; a ad. 9chei wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hanfonodd atat.
12A’r Arglwydd a etifedda Jwda, ei ran yn y tir sanctaidd, ac Pen 1:17a ddewis Jerwsalem drachefn.
13Pob cnawd, Seff 1:7taw yng ngŵydd yr Arglwydd: canys cyfododd Deut 26:15; Esa 57:15o drigfa ei sancteiddrwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
