1Bu hymresymiadau hwynt, a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa resymu yn eich calonnau yr ydych?
23Pa un hawsaf, ai dywedyd, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a rhodia?
24Ond fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau, (eb efe wrth y claf o’r parlys,) Yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod, a chymer dy wely, a dos i’th dŷ.
25Ac yn y man y cyfododd efe i fyny yn eu gŵydd hwynt; ac efe a gymerth yr hyn y gorweddai arno, ac a aeth ymaith i’w dŷ ei hun, gan ogoneddu Duw.
26A syndod a ddaeth ar bawb, a hwy a ogoneddasant Dduw; a hwy a lanwyd o ofn, gan ddywedyd, Gwelsom bethau anhygoel heddiw.
27 furmurasant yn erbyn ei ddisgyblion ef, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi yn bwyta ac yn yfed gyda phublicanod a phechaduriaid?
31A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i’r rhai iach wrth feddyg; ond i’r rhai cleifion.
32Mat 9:13; 1 Tim 1:15Ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.
33A hwy a ddywedasant wrtho, Mat 9:14; Marc 2:18Paham y mae disgyblion Ioan yn ymprydio yn fynych, ac yn gwneuthur gweddïau, a’r un modd yr eiddo y Phariseaid; ond yr eiddot ti yn bwyta ac yn yfed?
34Yntau a ddywedodd wrthynt, A ellwch chwi beri i blant yr ystafell briodas ymprydio, tra fyddo’r priodasfab gyda hwynt?
35Ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodasfab oddi arnynt: ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny.
36 Mat 9:16, 17; Marc 2:21, 22 Ac efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt: Ni rydd neb lain o ddilledyn newydd mewn hen ddilledyn: os amgen, y mae’r newydd yn gwneuthur rhwygiad, a’r llain o’r newydd ni chytuna â’r hen.
37Ac nid yw neb yn bwrw gwin newydd i hen gostrelau: os amgen, y gwin newydd a ddryllia’r costrelau, ac efe a red allan, a’r costrelau a gollir.
38Eithr gwin newydd sydd raid ei fwrw mewn costrelau newyddion; a’r ddau a gedwir.
39Ac nid oes neb, gwedi iddo yfed gwin hen, a chwennych y newydd yn y fan: canys efe a ddywed, Gwell yw’r hen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.