Barnwyr 8 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Gedeon yn llonyddu gwŷr Effraim. 4 Succoth a Phenuel yn gwrthod porthi llu Gedeon. 10 Dala Seba a Salmunna. 16, 17 Dinistr Succoth a Phenuel. 21 Gedeon yn dial marwolaeth ei frodyr ar Seba a Salmunna; 23 yn gwrthod llywodraethu. 27 Ei effod ef yn achos o ddelw‐addoliaeth. 28 Goresgyn Midian. 30 Plant Gedeon, a’i farwolaeth. 33 Gau‐dduwiaeth ac anniolchgarwch yr Israeliaid.

1A Paham y gwnaethost y peth hyn â ni, heb alw arnom ni pan aethost i ymladd yn erbyn y Midianiaid? A hwy a’i dwrdiasant ef yn dost.

2Ac efe a ddywedodd wrthynt, Beth a wneuthum i yn awr wrth a wnaethoch chwi? Onid gwell yw lloffiad grawnwin Effraim, na chasgliad grawnwin Abieser?

3Duw a roddodd yn eich llaw chwi dywysogion Midian, Oreb a Seeb: a pheth a allwn i ei wneuthur wrth a wnaethoch chwi? Yna yr arafodd eu dig hwynt tuag ato ef, pan lefarodd efe y gair hwn.

4A daeth Gedeon i’r Iorddonen; ac a aeth drosti hi, efe a’r tri channwr oedd gydag ef, yn ddiffygiol, ac eto yn eu herlid hwy.

5Ac efe a ddywedodd wrth wŷr Succoth, Rhoddwch, atolwg, dorthau o fara i’r bobl sydd i’m canlyn i: canys lluddedig ydynt hwy; a minnau yn erlid ar ôl Seba a Salmunna, brenhinoedd Midian.

6A dywedodd tywysogion Succoth, A yw llaw Seba a Salmunna yn awr yn dy law di, fel drylliaf eich cnawd chwi â drain yr anialwch, ac â mieri.

8Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Penuel, ac a lefarodd wrthynt hwythau yn yr un modd. A gwŷr Penuel a’i hatebasant ef fel yr atebasai gwŷr Succoth.

9Ac efe a lefarodd hefyd wrth wŷr Penuel, gan ddywedyd, Pan ddychwelwyf mewn heddwch, mi a ddistrywiaf y tŵr yma.

10A Seba a Salmunna oedd yn Carcor, a’u lluoedd gyda hwynt, ynghylch pymtheng mil, yr hyn oll a adawsid o holl fyddin meibion y dwyrain: canys lladdwyd cant ac ugain mil o wŷr yn tynnu cleddyf.

11A Gedeon a aeth i fyny ar hyd ffordd y rhai oedd yn trigo mewn pebyll, o’r tu dwyrain i ysgafala.

12A Seba a Salmunna a ffoesant: ac efe a erlidiodd ar eu hôl hwynt; ac darfodd yr holl lu.

13A Gedeon mab Joas a ddychwelodd o’r rhyfel cyn codi yr haul.

14Ac efe a ddaliodd lanc o wŷr Succoth, ac a ymofynnodd ag ef. Ac yntau a ysgrifennodd iddo dywysogion Succoth, a’r henuriaid; sef dau ŵr ar bymtheg a thrigain.

15Ac efe a ddaeth at wŷr Succoth, ac a ddywedodd, Wele Seba a Salmunna, trwy y rhai y danodasoch i mi, gan ddywedyd, A ydyw llaw Seba a Salmunna yn awr yn dy law di, fel y rhoddem fara i’th wŷr lluddedig?

16Ac efe a gymerth henuriaid y ddinas, a drain yr anialwch, a mieri, ac a ddysgodd wŷr Succoth â hwynt.

17Tŵr colerau oedd am yddfau eu camelod hwynt.

22A gwŷr Israel a ddywedasant wrth Gedeon, Arglwyddiaetha arnom ni, tydi, a’th fab, a mab dy fab hefyd: canys gwaredaist ni o law Midian.

23A Gedeon a ddywedodd wrthynt, Ni arglwyddiaethaf fi arnoch, ac ni arglwyddiaetha fy mab arnoch, eithr colerau, a’r arogl‐bellennau, a’r gwisgoedd porffor, y rhai oedd am frenhinoedd Midian; ac heblaw y tyrch oedd am yddfau eu camelod hwynt.

27A Gedeon o’i gorff ef: canys gwragedd lawer oedd iddo ef.

31A’i ordderchwraig ef, yr hon oedd yn Sichem, a ymddûg hefyd iddo fab: ac efe a osododd ei enw ef yn Abimelech.

32Felly Gedeon mab Joas a fu farw mewn oedran teg, ac a gladdwyd ym meddrod Joas ei dad, yn Offra yr Abiesriaid.

33A phan fu farw Gedeon, yna meibion Israel a ddychwelsant, ac a buteiniasant ar ôl Baalim; ac a wnaethant Baal‐berith yn dduw iddynt.

34Felly meibion Israel ni chofiasant yr Arglwydd eu Duw, yr hwn a’u gwaredasai hwynt o law eu holl elynion o amgylch;

35Ac ni wnaethant garedigrwydd â thŷ Jerwbbaal, sef Gedeon, yn ôl yr holl ddaioni a wnaethai efe i Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help