1Ac efe a’m dug i i’r deml, ac a fesurodd y pyst yn chwe chufydd o led o’r naill du, ac yn chwe chufydd o led o’r tu arall, fel yr oedd lled y babell.
2Lled y drws hefyd oedd ddeg cufydd; ac ystlysau y drws yn bum cufydd o’r naill du, ac yn bum cufydd o’r tu arall: ac efe a fesurodd ei hyd ef yn ddeugain cufydd, a’r lled yn ugain cufydd.
3Ac efe a aeth tuag i mewn, ac a fesurodd bost y drws yn ddau gufydd, a’r drws yn chwe chufydd, a lled y drws yn saith gufydd.
4Ac o weithiau: ac yr oeddynt yn cyrhaeddyd at bared y tŷ yr hwn oedd i’r ystafelloedd o amgylch ogylch, fel y byddent ynglŷn; ac nid oeddynt ynglŷn o fewn pared y tŷ.
7Ac ar dro uwch uwch i’r celloedd: oherwydd tro y tŷ oedd yn myned i fyny o amgylch y tŷ: am hynny y tŷ oedd ehangach oddi arnodd; ac felly y dringid o’r isaf i’r uchaf trwy y ganol.
8Gwelais hefyd uchder y tŷ o amgylch ogylch: seiliau y celloedd oedd ystafelloedd o’r naill du, ac o’r tu arall, yn gan cufydd, gyda’r deml oddi fewn, a drysau y cyntedd.
16Y gorsingau, a’r ffenestri cyfyng, a’r ystafelloedd o amgylch ar eu tri uchder, ar gyfer y rhiniog a ystyllenasid â choed o amgylch ogylch, ac o’r llawr hyd y ffenestri, a’r ffenestri hefyd a ystyllenasid;
17Hyd uwchben y drws, a hyd y tŷ o fewn ac allan, ac ar yr holl bared o amgylch ogylch o fewn ac allan, wrth fesurau.
18A cheriwbiaid hefyd ac â phalmwydd y gweithiasid ef, palmwydden rhwng pob dau geriwb: a dau wyneb oedd i bob ceriwb.
19pyst y deml, ac wyneb y cysegr; gwelediad y naill fel gwelediad y llall.
22Yr allor bren oedd dri chufydd ei huchder, a’i hyd yn ddau gufydd: a’i chonglau, a’i huchder, a’i pharwydydd, oedd o bren. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y Mal 1:7, 12bwrdd sydd gerbron yr Arglwydd.
23Ac yr ydoedd dau ddrws i’r deml ac i’r cysegr:
24A dwy ddôr i’r drysau, sef dwy ddôr blygedig; dwy ddôr i’r naill ddrws, a dwy ddôr i’r llall.
25A gwnaethid arnynt, ar ddrysau y deml, geriwbiaid a phalmwydd, fel y gwnaethid ar y parwydydd: ac yr oedd trawstiau coed ar wyneb y cyntedd o’r tu allan.
26Ffenestri cyfyng hefyd a phalmwydd oedd o bob tu, ar ystlysau y porth, ac ar ystafelloedd y tŷ, a’r trawstiau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.