Deuteronomium 1 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Araith Moses yn niwedd y ddeugeinfed flwyddyn, yn adrodd ar fyr eiriau yr holl ystori, 6 am addewid Duw, 13 am osod swyddogion arnynt, 19 am ddanfon yr ysbïwyr i chwilio y wlad, 34 am ddigofaint Duw am eu hanghrediniaeth, 41 a’u hanufudd‐dod hwy.

1Dyma y geiriau a ddywedodd Moses wrth holl Israel, o’r tu yma i’r Iorddonen, yn yr anialwch, ar y rhos gyferbyn â’r môr coch, rhwng Paran, a Toffel, a Laban, a Haseroth, a Disahab.

2(Taith un diwrnod ar ddeg sydd o Horeb, ffordd yr eir i fynydd Seir, hyd Cades‐barnea.)

3A bu yn y ddeugeinfed flwyddyn, yn yr unfed mis ar ddeg, ar y dydd cyntaf o’r mis, i Moses lefaru wrth feibion Israel, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd iddo ei ddywedyd wrthynt;

4gyfagos leoedd; i’r rhos, i’r mynydd, ac i’r dyffryn, ac i’r deau, ac i borthladd y môr, i dir y Canaaneaid, ac i Libanus, hyd yr afon fawr, afon Ewffrates.

8Wele, rhoddais y wlad o’ch blaen chwi: ewch i mewn, a pherchenogwch y wlad yr hon a dyngodd yr Arglwydd i’ch tadau chwi, i gwneuthum hwynt yn bennau arnoch; sef yn gapteiniaid ar filoedd, ac yn gapteiniaid ar gannoedd, ac yn gapteiniaid ar ddegau a deugain, ac yn gapteiniaid ar ddegau, ac yn swyddogion yn eich llwythau chwi.

16A’r amser hwnnw y gorchmynnais i’ch barnwyr chwi, gan ddywedyd, Gwrandewch ddadleuon rhwng eich brodyr, a a’n digalonasant ni, gan ddywedyd, hwy na nyni ydynt; Pen 9:1dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd: meibion Num 13:28yr Anaciaid hefyd a welsom ni yno.

29Yna y dywedais wrthych, Nac arswydwch, ac nac ofnwch rhagddynt hwy.

30Exod 14:14, 25; Neh 4:20Yr Arglwydd eich Duw, yr hwn sydd yn myned o’ch blaen, efe a ymladd drosoch, yn ôl yr hyn oll a wnaeth efe eroch chwi yn yr Aifft o flaen eich llygaid;

31Ac yn yr anialwch, lle y gwelaist fel Pen 32:11, 12; Esa 46:3, 4; 63:9; Hos 11:3y’th ddug yr Arglwydd dy Dduw, fel y dwg gŵr ei fab, yn yr holl ffordd a gerddasoch, nes eich dyfod i’r man yma.

32Eto yn y peth hyn ni chredasoch chwi yn yr Arglwydd eich Duw,

33Exod 13:21Yr hwn oedd yn myned o’ch blaen chwi ar hyd y ffordd, Num 10:33; Esec 20:6i chwilio i chwi am le i wersyllu; y nos mewn tân, i ddangos i chwi pa ffordd yr aech, a’r dydd mewn cwmwl.

34A chlybu yr Arglwydd lais eich geiriau; ac a ddigiodd, ac a dyngodd, gan ddywedyd,

35Num 14:22; Salm 95:11Diau na chaiff yr un o’r dynion hyn, o’r genhedlaeth ddrwg hon, weled y wlad dda yr hon y tyngais ar ei rhoddi i’ch tadau chwi;

36Jos 14:9Oddieithr Caleb mab Jeffunne: efe a’i gwêl hi, ac iddo ef y rhoddaf y wlad y sangodd efe arni, ac i’w feibion; o achos Num 14:24cyflawni ohono wneuthur ar ôl yr Arglwydd.

37Num 20:12; 27:14; Pen 3:26; 4:21; 34:4Wrthyf finnau hefyd y digiodd yr Arglwydd o’ch plegid chwi, gan ddywedyd, Tithau hefyd ni chei fyned i mewn yno.

38Josua mab Nun, yr hwn sydd yn sefyll ger dy fron di, efe a â i mewn yno: cadarnha di ef; canys efe a’i rhan hi yn etifeddiaeth i Israel.

39Eich plant hefyd, y rhai y dywedasoch y byddent yn ysbail, a’ch meibion chwi, y rhai ni wyddant heddiw na da na drwg, hwynt‐hwy a ânt i mewn yno, ac iddynt hwy y rhoddaf hi, a hwy a’i perchenogant hi.

40Trowch chwithau, ac ewch i’r anialwch ar hyd ffordd y môr coch.

41Yna yr atebasoch, ac a ddywedasoch wrthyf, Num 14:40Pechasom yn erbyn yr Arglwydd: nyni a awn i fyny ac a ymladdwn, yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd ein Duw i ni. A gwisgasoch bob un ei arfau rhyfel, ac a ymroesoch i fyned i fyny i’r mynydd.

42A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Dywed wrthynt, Nac ewch i fyny, ac na ryfelwch; oblegid nid ydwyf fi yn eich mysg chwi; rhag eich taro o flaen eich gelynion

43Felly y dywedais wrthych; ond ni wrandawsoch, eithr gwrthryfelasoch yn erbyn gair yr Arglwydd; rhyfygasoch hefyd, ac aethoch i fyny i’r mynydd.

44A daeth allan yr Amoriaid, oedd yn trigo yn y mynydd hwnnw, i’ch cyfarfod chwi; ac a’ch ymlidiasant fel y gwnâi Salm 118:12gwenyn, ac a’ch difethasant chwi yn Seir, hyd Horma.

45A dychwelasoch, ac wylasoch gerbron yr Arglwydd: ond ni wrandawodd yr Arglwydd ar eich llef, ac ni roddes glust i chwi.

46Ac arosasoch yn Cades ddyddiau lawer, megis y dyddiau yr arosasoch o’r blaen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help