1 Hwy a ddywedant, O gyr gŵr ei wraig ymaith, a myned ohoni oddi wrtho ef, ac iddi fod yn eiddo gŵr arall, ysgafnder ei phuteindra yr halogodd hi y tir; canys gyda’r maen a’r pren y puteiniodd hi.
10Ac er hyn oll hefyd ni ddychwelodd Jwda ei chwaer anffyddlon ataf fi â’i holl galon, eithr mewn rhagrith, medd yr Arglwydd.
11A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, ni feddwl calon amdani, ac ni chofir hi; nid ymwelant â hi chwaith, ac ni wneir hynny mwy.
17Yn yr amser hwnnw y galwant Jerwsalem yn orseddfa yr Arglwydd; ac y cesglir ati yr holl genhedloedd, gyda thŷ Israel, a hwy a ddeuant ynghyd, o dir y gogledd, i’r tir a roddais i yn etifeddiaeth i’ch tadau chwi.
19Ond mi a ddywedais, Pa fodd y’th osodaf ymhlith y plant, ac y rhoddaf i ti ardderchog lluoedd y cenhedloedd? ac a ddywedais, Ti a elwi arnaf fi, Fy nhad, ac ni throi ymaith oddi ar fy ôl i.
20Yn ddiau fel yr anffyddlona gwraig oddi wrth ei chyfaill; felly, tŷ Israel, Pen 5:11y buoch anffyddlon i mi, medd yr Arglwydd.
21Llef a glywyd yn y mannau uchel, wylofain a dymuniadau meibion Israel: canys gwyrasant eu ffordd, ac anghofiasant yr Arglwydd eu Duw.
22Hos 14:1Ymchwelwch, feibion gwrthnysig, a mi a iachâf eich gwrthnysigrwydd chwi. Wele ni yn dyfod atat ti; oblegid ti yw yr Arglwydd ein Duw.
23Salm 121:1, 2Diau fod yn ofer ymddiried am help o’r bryniau, ac o liaws y mynyddoedd: Salm 3:8diau fod iachawdwriaeth Israel yn yr Arglwydd ein Duw ni.
24Pen 11:13Canys gwarth a ysodd lafur ein tadau o’n hieuenctid; eu defaid a’u gwartheg, eu meibion a’u merched.
25Gorwedd yr ydym yn ein cywilydd, a’n gwarth a’n todd ni: canys yn erbyn yr Arglwydd ein Duw y pechasom, nyni a’n tadau, o’n hieuenctid hyd y dydd heddiw, ac ni wrandawsom ar lais yr Arglwydd ein Duw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
