2 Samuel 22 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

Salm o ddiolchgarwch am alluog ymwared Duw, a’i amryw fendithion.

1A Dafydd a lefarodd wrth yr Arglwydd eiriau y gân hon, yn y dydd y gwaredodd yr Arglwydd ef o law ei holl elynion, ac o law Saul.

2Ac efe a ddywedodd, gofidion angau a’m cylchynasant; afonydd y fall a’m dychrynasant i.

6Doluriau uffern a’m hamgylchynasant; maglau angau a’m rhagflaenasant.

7Yn fy nghyfyngdra y gelwais ar yr Arglwydd, ac y gwaeddais ar fy Nuw; ac efe a glybu fy llef o’i deml, a’m gwaedd a aeth i’w glustiau ef.

8Yna y cynhyrfodd ac y crynodd y ddaear: ddinoethwyd, gan gerydd yr Arglwydd, a chan chwythad anadl ei ffroenau ef.

17Efe a anfonodd oddi uchod: cymerodd fi; tynnodd fi o ddyfroedd lawer.

18Gwaredodd fi rhag fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghaseion; am eu bod yn drech na mi.

19Achubasant fy mlaen yn nydd fy ngofid: ond yr Arglwydd oedd gynhaliad i mi.

20Efe a’m dug i ehangder: efe a’m gwaredodd i, am iddo ymhoffi ynof.

21Yr Arglwydd a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder: yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi.

22Canys mi a gedwais ffyrdd yr Arglwydd, ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy Nuw.

23Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i: ac oddi wrth ei ddeddfau ni chiliais i.

24Bûm hefyd berffaith ger ei fron ef; ac ymgedwais rhag fy anwiredd.

25A’r Arglwydd a’m gobrwyodd innau yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl fy nglendid o flaen ei lygaid ef.

26A’r trugarog y gwnei drugaredd: â’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd.

27A’r glân y gwnei lendid; ac rhedaf trwy fyddin: trwy fy Nuw y llamaf dros fur.

31ac â’th fwynder y lluosogaist fi.

37Ehengaist fy ngherddediad danaf; fel na lithrodd fy sodlau.

38Erlidiais fy ngelynion, a difethais hwynt; ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt.

39Difeais hwynt hefyd, a thrywenais hwynt, fel na chyfodent; a hwy a syrthiasant dan fy nhraed i.

40Canys ti a’m gwregysaist i â nerth i ryfel: y rhai a ymgyfodent i’m herbyn, a ddarostyngaist danaf.

41Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngelynion; fel y difethwn fy nghaseion.

42Disgwyliasant, ond nid oedd achubydd; sef am yr Arglwydd, ond nid atebodd hwynt.

43Yna y maluriais hwynt fel llwch y ddaear; melais hwynt fel tom yr heolydd, a thaenais hwynt.

44Gwaredaist fi rhag cynhennau fy mhobl; cedwaist fi yn ben ar genhedloedd: pobl nid adnabûm a’m gwasanaethant.

45Meibion dieithr a gymerant arnynt fy nial i, ac sydd yn darostwng pobloedd danaf fi,

49Ac sydd yn fy nhywys i o blith fy ngelynion: ti hefyd a’m dyrchefaist uwchlaw y rhai a gyfodent i’m herbyn; rhag y gŵr traws y’m hachubaist i.

50Am hynny y moliannaf di, O Arglwydd, ymhlith y Rhuf 15:9cenhedloedd, ac y canaf i’th enw.

51Efe sydd dŵr iachawdwriaeth i’w frenin; ac yn gwneuthur trugaredd i’w eneiniog, i Dafydd, ac Pen 7:12i’w had yn dragywydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help