1Yna Jerwbbaal, rhai arfogion oedd yn y gwersyll.
12A’r Midianiaid, a’r Amaleciaid, a ddirnad, efe a addolodd, ac a ddychwelodd i wersyll Israel; ac a ddywedodd, Cyfodwch: canys rhoddodd yr Arglwydd fyddin y Midianiaid yn eich llaw chwi.
16Ac efe a rannodd y tri channwr yn dair byddin, ac a roddodd utgyrn yn llaw pawb ohonynt, a phiserau gwag, a lampau yng nghanol y piserau.
17Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Edrychwch arnaf fi, a gwnewch yr un ffunud: ac wele, pan ddelwyf i gwr y gwersyll, yna fel y gwnelwyf fi, gwnewch chwithau.
18Pan utganwyf fi mewn utgorn, myfi a’r holl rai sydd gyda mi, utgenwch chwithau mewn utgyrn o amgylch yr holl wersyll, a dywedwch, Cleddyf yr Arglwydd a Gedeon.
19Felly Gedeon a ddaeth i mewn, a’r cannwr oedd gydag ef, i gwr y gwersyll, yn nechrau’r wyliadwriaeth ganol, a’r gwylwyr wedi eu newydd osod, ac a utganasant mewn utgyrn, ac a ddrylliasant y piserau oedd yn eu dwylo.
20A’r tair byddin a utganasant mewn utgyrn, ac a ddrylliasant y piserau, ac a ddaliasant y lampau yn eu llaw aswy, a’r utgyrn yn eu llaw ddeau i utganu: a hwy a lefasant, Cleddyf yr Arglwydd a Gedeon.
21A safasant bob un yn ei le, o amgylch y gwersyll: a’r holl wersyll a redodd, ac a waeddodd, ac a ffodd.
22A’r tri chant yn Sererath, hyd fin Abel‐mehola, hyd Tabbath.
23A gwŷr Israel a ymgasglasant, o Nafftali, ac o Aser, ac o holl Manasse, ac a erlidiasant ar ôl y Midianiaid.
24A Gedeon a anfonodd genhadau trwy holl fynydd Effraim, gan ddywedyd, Deuwch i waered yn erbyn y Midianiaid, ac achubwch o’u blaen hwynt y dyfroedd hyd Beth‐bara a’r Iorddonen: a holl wŷr Effraim a ymgasglasant, ac a enillasant y dyfroedd hyd Beth‐bara a’r Iorddonen.
25A daliasant Salm 83:11; Esa 10:26ddau o dywysogion Midian, Oreb a Seeb; a lladdasant Oreb ar graig Oreb, a lladdasant Seeb wrth winwryf Seeb, ac a erlidiasant Midian, ac a ddygasant bennau Oreb a Seeb at Gedeon, i’r tu arall i’r Iorddonen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.