Jeremeia 43 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Johanan yn anghoelio proffwydoliaeth Jeremeia, ac yn ei ddwyn ef ac eraill i’r Aifft. 8 Jeremeia, trwy gysgod, yn proffwydo y goresgynid yr Aifft gan y Babiloniaid.

1A phan ddarfu i Jeremeia lefaru wrth yr holl bobl holl eiriau yr Arglwydd eu Duw, am y rhai yr anfonasai yr Arglwydd eu Duw ef atynt, sef yr holl eiriau hyn:

2Yna y llefarodd Asareia mab Hosaia, a Johanan mab Carea, a’r holl ddynion beilchion, gan ddywedyd wrth Jeremeia, Celwydd yr wyt ti yn ei ddywedyd; ni anfonodd yr Arglwydd ein Duw ni mohonot ti i ddywedyd, Nac ewch i’r Aifft i ymdeithio yno.

3Eithr Baruch mab Nereia a’th anogodd di i’n herbyn ni, i gael ein rhoddi ni yn llaw y Caldeaid, i’n lladd, ac i’n caethgludo i Babilon.

4Ond ni wrandawodd Johanan mab Carea, na holl dywysogion y llu, na’r holl bobl, ar lais yr Arglwydd, i drigo yn nhir Jwda:

5Eithr Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu, a ddygasant ymaith holl weddill Jwda, y rhai a ddychwelsant oddi wrth yr holl genhedloedd lle y gyrasid hwynt, i aros yng ngwlad Jwda;

6Yn wŷr, a gwragedd, a phlant, a Tapanhes.

8A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia yn Tapanhes, gan ddywedyd,

9Cymer yn dy law gerrig mawrion, a chuddia hwynt yn y clai yn yr odyn briddfaen, yr hon sydd yn nrws tŷ Pharo, yn Tapanhes, yng ngolwg gwŷr Jwda;

10A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, mi a anfonaf, ac a gymeraf Nebuchodonosor brenin Babilon, tŷ yr haul, yr hwn sydd yng ngwlad yr Aifft; ac efe a lysg dai duwiau yr Aifft â thân.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help