1A phan Creta, ar gyfer Salmone.
8Ac wedi i ni yn brin fyned heibio iddi, ni a ddaethom i ryw le a elwir, Y porthladdoedd prydferth, yr hwn yr oedd dinas Lasea yn agos iddo.
9Ac wedi i dalm o amser fyned heibio, a bod morio weithian yn enbyd, oherwydd hefyd ddarfod yr ympryd weithian, Paul a gynghorodd,
10Gan ddywedyd wrthynt, Ha wŷr, yr wyf yn gweled y bydd yr hynt hon ynghyd â sarhad a cholled fawr, nid yn unig am y llwyth a’r llong, eithr am ein heinioes ni hefyd.
11Eithr y canwriad a gredodd i lywydd ac i berchen y llong, yn fwy nag i’r pethau a ddywedid gan Paul.
12A chan fod y porthladd yn anghyfleus i aeafu, y rhan fwyaf a roesant gyngor i ymado oddi yno hefyd, os gallent ryw fodd gyrhaeddyd hyd Phenice, i aeafu yno; yr hwn sydd borthladd yn Creta, ar gyfer y deau‐orllewin, a’r gogledd‐orllewin.
13A phan chwythodd y deheuwynt yn araf, hwynt‐hwy yn tybied cael eu meddwl, gan godi hwyliau, a foriasant heibio yn agos i Creta.
14Ond cyn nemor cyfododd yn ei herbyn hi wynt tymhestlog, yr hwn a elwir Euroclydon.
15A phan gipiwyd y llong, ac heb allu gwrthwynebu’r gwynt, ni a ymroesom, ac a ddygwyd gyda’r gwynt.
16Ac wedi i ni redeg goris ynys fechan a elwir Clauda, braidd y gallasom gael y bad:
17Yr hwn a godasant i fyny, ac a wnaethant gynorthwyon, gan wregysu’r llong oddi dani: a hwy yn ofni rhag syrthio ar sugndraeth, wedi gostwng yr hwyl, a ddygwyd felly.
18A ni’n flin iawn arnom gan y dymestl, drannoeth hwy a ysgafnhasant y llong;
19A’r trydydd dydd i ni syrthio ar leoedd geirwon, wedi iddynt fwrw pedair angor allan o’r llyw, hwy a ddeisyfasant ei myned hi yn ddydd.
30Ac fel yr oedd y llongwyr yn ceisio ffoi allan o’r llong, ac wedi gollwng y bad i waered i’r môr, yn rhith bod ar fedr bwrw angorau o’r pen blaen i’r llong,
31Dywedodd Paul wrth y canwriad a’r milwyr, Onid erys y rhai hyn yn y llong, ni ellwch chwi fod yn gadwedig.
32Yna y torrodd y milwyr raffau’r bad, ac a adawsant iddo syrthio ymaith.
33A thra ydoedd hi yn dyddhau, Paul a eiriolodd ar bawb gymryd lluniaeth, gan ddywedyd, Heddiw yw y pedwerydd dydd ar ddeg yr ydych chwi yn disgwyl, ac yn aros ar eich cythlwng, heb gymryd dim.
34Oherwydd paham yr ydwyf yn dymuno arnoch gymryd lluniaeth; oblegid hyn sydd er iechyd i chwi: canys godi’r angorau, hwy a ymollyngasant i’r môr, ac a ollyngasant hefyd yn rhydd rwymau y llyw, ac a godasant yr hwyl i’r gwynt, ac a geisiasant y lan.
41Ac wedi i ni syrthio ar le deuforgyfarfod, 2 Cor 11:25hwy a wthiasant y llong: a’r pen blaen iddi a lynodd, ac a safodd yn ddiysgog; eithr y pen ôl a ymddatododd gan nerth y tonnau.
42A chyngor y milwyr oedd, ladd y carcharorion, rhag i neb ohonynt nofio allan, a dianc ymaith.
43Ond y canwriad, yn ewyllysio cadw Paul, a rwystrodd iddynt eu hamcan; ac a archodd i bawb a’r a fedrai nofio, ymfwrw yn gyntaf i’r môr, a myned allan i’r tir:
44Ac i’r lleill, rhai ar ystyllod, ac eraill ar ryw ddrylliau o’r llong. Ac felly y digwyddodd ddyfod o bawb i dir yn ddihangol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.