1 Samuel 12 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Samuel yn tystiolaethu ei ddiniweidrwydd, 6 ac yn ceryddu anniolchgarwch y bobl: 16 yn eu dychrynu hwynt â tharanau yn amser cynhaeaf: 20 ac yn eu cysuro hwy â thrugaredd Duw.

1A Samuel a ddywedodd wrth holl Israel, Wele, gwrandewais ar eich llais yn yr hyn oll a ddywedasoch wrthyf, a gosodais frenin arnoch.

2Ac yr awr hon, wele y brenin yn rhodio o’ch blaen chwi: a minnau a heneiddiais, ac a benwynnais; ac wele fy meibion hwythau gyda chwi; a minnau a rodiais o’ch blaen chwi o’m mebyd hyd y dydd hwn.

3Wele fi; tystiolaethwch i’m herbyn gerbron yr Arglwydd, a cherbron ei eneiniog: wobr, i ddallu fy llygaid ag ef? a mi a’i talaf i chwi.

4A hwy a ddywedasant, Ni thwyllaist ni, ni orthrymaist ni chwaith, ac ni chymeraist ddim o law neb.

5Dywedodd yntau wrthynt, Yr Arglwydd sydd dyst yn eich erbyn chwi, ei eneiniog ef hefyd sydd dyst y dydd hwn, na chawsoch ddim yn fy llaw i. A’r bobl a ddywedasant, Tyst ydyw.

6A Samuel a ddywedodd wrth y bobl, Yr Arglwydd yw yr hwn a fawrhaodd Moses ac Aaron, a’r hwn a ddug i fyny eich tadau chwi o dir yr Aifft.

7Yn awr gan hynny sefwch, fel yr ymresymwyf â chwi gerbron yr Arglwydd, am holl gyfiawnderau yr Arglwydd, y rhai a wnaeth efe i chwi ac i’ch tadau.

8gair yr Arglwydd; yna y byddwch chwi, a’r brenin hefyd a deyrnasa arnoch, ar ôl yr Arglwydd eich Duw.

15Ond os chwi ni wrandewch ar lais yr Arglwydd, eithr anufuddhau gair yr Arglwydd; yna y bydd llaw yr Arglwydd yn eich erbyn chwi, fel yn erbyn eich tadau.

16Sefwch gan hynny yn awr, a gwelwch y peth mawr hyn a wna yr Arglwydd o flaen eich llygaid chwi.

17Onid cynhaeaf gwenith yw heddiw? Galwaf ar yr Arglwydd; ac efe a ddyry daranau, a glaw: fel y gwybyddoch ac y gweloch, mai mawr yw eich drygioni chwi yr hwn a wnaethoch yng ngolwg yr Arglwydd, yn gofyn i chwi frenin.

18Felly Samuel a alwodd ar yr Arglwydd; a’r Arglwydd a roddodd daranau a glaw y dydd hwnnw; a’r Edrych Esra 10:9holl bobl a ofnodd yr Arglwydd a Samuel yn ddirfawr.

19A’r holl bobl a ddywedasant wrth Samuel, Gweddïa dros dy weision ar yr Arglwydd dy Dduw, fel na byddom feirw; canys chwanegasom ddrygioni ar ein holl bechodau, wrth geisio i ni frenin.

20A dywedodd Samuel wrth y bobl, Nac ofnwch; chwi a wnaethoch yr holl ddrygioni hyn: eto na chiliwch oddi ar ôl yr Arglwydd, ond gwasanaethwch yr Arglwydd â’ch holl galon;

21Ac na chiliwch: canys felly yr aech ar ôl oferedd, y rhai ni lesânt, ac ni’ch gwaredant; canys ofer ydynt hwy.

22Canys ni wrthyd yr Arglwydd ei bobl, er mwyn ei enw mawr: oherwydd rhyngodd bodd i’r Arglwydd eich gwneuthur chwi yn bobl iddo ei hun.

23A minnau, na ato Duw i mi bechu yn erbyn yr Arglwydd, trwy beidio â gweddïo drosoch: eithr dysgaf i chwi y ffordd dda ac uniawn.

24Yn unig ofnwch yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef mewn gwirionedd â’ch holl galon: canys gwelwch faint a wnaeth efe eroch.

25Ond os dilynwch ddrygioni, chwi a’ch brenin a ddifethir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help