Genesis 47 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Joseff yn dwyn pump o’i frodyr, 7 a’i dad, ger bron Pharo. 11 Yntau yn rhoddi iddynt drigfa a modd i fyw. 13 Mae efe yn cael holl arian yr Eifftiaid, 16 a’u hanifeiliaid, 18 a’u tiroedd, i Pharo. 22 Ni phrynwyd mo dir yr offeiriaid. 23 Mae efe yn gosod y tir iddynt er y bumed ran. 28 Oedran Jacob. 29 Mae efe yn peri i Joseff dyngu y claddai efe ef gyda’i dadau.

1Yna y daeth Joseff ac a fynegodd i Pharo, ac a ddywedodd, Fy nhad, a’m brodyr, a’u defaid, a’u gwartheg, a’r hyn oll oedd ganddynt, a ddaethant o dir Canaan; ac wele hwynt yn Pa faint yw dyddiau blynyddoedd dy einioes di?

9A Jacob a ddywedodd wrth Pharo, yn ôl eu teuluoedd.

13Ac nid oedd bara yn yr holl wlad: canys y newyn oedd drwm iawn; fel yr oedd gwlad yr Aifft, a gwlad Canaan, yn dyddfu gan y newyn.

14Joseff hefyd a gasglodd yr holl arian a gawsid yn nhir yr Aifft, ac yn nhir Canaan, am yr ymborth a brynasent hwy: a Joseff a ddug yr arian i dŷ Pharo.

15Pan ddarfu’r arian yn nhir yr Aifft, ac yng ngwlad Canaan, yr holl Eifftiaid a ddaethant at Joseff, gan ddywedyd, Moes i ni fara: canys paham y byddem ni feirw ger dy fron? oherwydd darfu’r arian.

16A dywedodd Joseff, Moeswch eich anifeiliaid; a rhoddaf i chwi am eich anifeiliaid, os darfu’r arian.

17A hwy a ddygasant eu hanifeiliaid at Joseff: a rhoddes Joseff iddynt fara am y meirch, ac am y diadelloedd defaid, ac am y gyrroedd gwartheg, ac am yr asynnod; ac a’u cynhaliodd hwynt â bara, am eu holl anifeiliaid, dros y flwyddyn honno.

18A phan ddarfu’r flwyddyn honno, y daethant ato ef yr ail flwyddyn, ac a ddywedasant wrtho, Ni chelwn oddi wrth fy arglwydd ddarfod yr arian, a myned ein hysgrubliaid a’n hanifeiliaid at fy arglwydd; ni adawyd i ni gerbron fy arglwydd onid ein cyrff a’n tir.

19Paham y byddwn feirw o flaen dy lygaid, nyni a’n tir? prŷn ni a’n tir am fara; a nyni a’n tir a fyddwn gaethion i Pharo: dod dithau i ni had, fel y byddom fyw, ac na fyddom feirw, ac na byddo’r tir yn anghyfannedd.

20A Joseff a brynodd holl dir yr Aifft i Pharo: canys yr Eifftiaid a werthasant bob un ei faes; oblegid y newyn a gryfhasai arnynt: felly yr aeth y tir i Pharo.

21Y bobl hefyd, efe a’u symudodd hwynt i ddinasoedd, o’r naill gwr i derfyn yr Aifft hyd ei chwr arall.

22Yn unig tir yr offeiriaid ni phrynodd efe: canys rhan oedd i’r offeiriaid wedi ei phennu iddynt gan Pharo, a’u rhan a roddasai Pharo iddynt a fwytasant hwy; am hynny ni werthasant hwy eu tir.

23Dywedodd Joseff hefyd wrth y bobl, Wele, prynais chwi heddiw, a’ch tir, i Pharo: wele i chwi had, heuwch chwithau y tir.

24A bydded i chwi roddi i Pharo y bumed ran o’r cnwd; a bydd y pedair rhan i chwi, yn had i’r maes, ac yn ymborth i chwi, ac i’r rhai sydd yn eich tai, ac yn fwyd i’ch rhai bach.

25A dywedasant, Cedwaist ni yn fyw: gad i ni gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd, a byddwn weision i Pharo.

26A Joseff a osododd hynny yn ddeddf hyd heddiw ar dir yr Aifft, gael o Pharo y bumed ran; ond o dir yr offeiriaid yn unig, yr hwn nid oedd eiddo Pharo.

27Trigodd Israel hefyd yng ngwlad yr Aifft o fewn tir Gosen, ac a gawsant feddiannau ynddi; cynyddasant hefyd, ac amlhasant yn ddirfawr.

28Jacob hefyd a fu fyw yn nhir yr Aifft ddwy flynedd ar bymtheg; felly yr oedd dyddiau Jacob, sef blynyddoedd ei einioes ef, yn saith mlynedd a deugain a chan mlynedd.

29A dyddiau Israel a nesasant i farw: ac efe a alwodd am ei fab Joseff, ac a ddywedodd wrtho, O chefais yn awr ffafr yn dy olwg, Pen 24:2gosod, atolwg, dy law dan fy morddwyd, a gwna â mi drugaredd a gwirionedd; Felly Pen 50:25na chladd fi, atolwg, yn yr Aifft:

30Eithr mi a orweddaf gyda’m tadau; yna dwg fi allan o’r Aifft, a Pen 49:29chladd fi yn eu beddrod hwynt. Yntau a ddywedodd, Mi a wnaf yn ôl dy air.

31Ac efe a ddywedodd, Twng wrthyf. Ac efe a dyngodd wrtho. Yna Heb 11:21; Edrych 1 Bren 1:47Israel a ymgrymodd ar ben y gwely.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help