1Saul a deyrnasodd un flwyddyn; ac wedi iddo deyrnasu ddwy flynedd ar Israel,
2Saul a ddewisodd iddo dair mil o Israel; dwy fil oedd gyda Saul ym Michmas ac ym mynydd Bethel, a mil oedd gyda Jonathan yn Gibea Benjamin: a’r bobl eraill a anfonodd efe bawb i’w babell ei hun.
3A Jonathan a drawodd Geba: a chlybu y Philistiaid hynny. A Saul a ganodd mewn utgorn trwy’r holl dir, gan ddywedyd, Clywed yr Hebreaid.
4A holl Israel a glywsant ddywedyd daro o Saul sefyllfa y Philistiaid, a bod Israel yn ffiaidd gan y Philistiaid: a’r bobl a ymgasglodd ar ôl Saul i Gilgal.
5A’r Philistiaid a ymgynullasant i ymladd ag Israel, deng mil ar hugain o gerbydau, a chwe mil o wŷr meirch, a phobl eraill cyn amled â’r tywod sydd ar fin y môr. A hwy a ddaethant i fyny, ac a wersyllasant ym Michmas, o du y dwyrain i Beth‐afen.
6Pan welodd gwŷr Israel fod yn gyfyng arnynt, (canys gwasgasid ar y bobl,) yna y bobl a aethant ar ei ôl ef dan grynu.
8 i gyfarch gwell iddo.
11A dywedodd Samuel, Beth a wnaethost ti? A Saul a ddywedodd, Oherwydd gweled ohonof i’r bobl ymwasgaru oddi wrthyf, ac na ddaethost tithau o fewn y dyddiau gosodedig, ac i’r Philistiaid ymgasglu i Michmas;
12Am hynny y dywedais, Y Philistiaid yn awr a ddeuant i waered ataf fi i Gilgal, ac ni weddïais gerbron yr Arglwydd: am hynny yr anturiais i, ac yr offrymais boethoffrwm.
13A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Ynfyd y gwnaethost: ni chedwaist orchymyn yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a orchmynnodd efe i ti: canys yr Arglwydd yn awr a gadarnhasai dy frenhiniaeth di ar Israel yn dragywydd.
14Ond yn awr ni saif dy frenhiniaeth di: flaenllymu’r symbylau.
22Felly yn nydd y rhyfel Felly Barn 5ni chaed na chleddyf na gwaywffon yn llaw yr un o’r bobl oedd gyda Saul a Jonathan, ond a gaed gyda Saul a Jonathan ei fab.
23A sefyllfa’r Philistiaid a aeth allan i fwlch Michmas.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.